Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fis diwethaf, cofnododd Cymru ei chanlyniadau gwaethaf erioed ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Dangosodd eich ffigurau eich hun fod 78 y cant o gleifion a atgyfeiriwyd at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed wedi gorfod aros dros bedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod hynny'n annerbyniol. Hoffwn glywed pa gamau sydd wedi'u cymryd i wella'r sefyllfa. Hoffwn glywed mwy hefyd am yr ymrwymiad yn y cytundeb cydweithio ar brofi'r model noddfa. Byddai hyn yn cefnogi pobl ifanc sydd mewn argyfwng neu sydd â phroblem iechyd meddwl brys drwy ddarparu cyfleusterau cymunedol yn cael eu rhedeg gan staff hyfforddedig y trydydd sector, gyda llwybrau atgyfeirio clir i wasanaethau'r GIG lle bydd angen. Diolch.