Gofalwyr Di-dâl

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:13, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Heddiw, cyhoeddais daliad o £500 ar gyfer dros 57,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru sy’n cael lwfans gofalwr. Hefyd, mae gofalwyr di-dâl yng ngogledd Cymru yn parhau i elwa ar y £10 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd gennym ar gyfer ystod o wasanaethau cymorth i ofalwyr yn 2021-22, gan gynnwys £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant.