Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 23 Mawrth 2022.
Yn fuan iawn, bydd niferoedd sylweddol o Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru wrth i'r DU dynnu ei bys allan o'r diwedd a gwneud ei rhan dros ffoaduriaid sy'n dianc rhag rhyfelgarwch Putin. Yn ddealladwy, bydd llawer o'r bobl hyn sy'n ffoi o'u gwlad wedi dioddef trawma o ganlyniad i'r hyn y maent wedi'i brofi yn ystod y mis diwethaf, a bydd angen cymorth arbenigol arnynt i ymdrin â'r hyn y maent wedi'i weld a'i brofi. Bydd plant yn ffoi o Wcráin. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y paratoadau a wnaed cyn i ffoaduriaid Wcráin gyrraedd? Mae'r bobl druenus hyn eisoes wedi cael cam gan y Llywodraeth Dorïaidd oherwydd yr ymateb araf a thruenus i'r argyfwng ffoaduriaid. Gobeithio na chânt gam eto pan fyddant yn cyrraedd y glannau hyn. Diolch.