Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 2:56, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Peredur. Rydym i gyd wedi cael ein dychryn gan yr hyn a welwn, ac mae'r trawma y mae pobl yn ei brofi yn Wcráin yn rhywbeth na allwn ei ddychmygu mewn gwirionedd. Rwy'n falch ein bod yn mabwysiadu ymagwedd wahanol yng Nghymru gyda'n rhaglen uwch-noddwr, a fydd yn golygu, pan fydd ffoaduriaid Wcráin yn cyrraedd Cymru, y byddant yn cael eu cysylltu â gwasanaethau priodol. Byddwn yn sicrhau eu bod yn cofrestru gyda meddyg teulu, a byddant yn gallu cael mynediad at yr holl wasanaethau iechyd prif ffrwd. Bydd hynny'n cynnwys cymorth iechyd meddwl. Bydd y cymorth iechyd i'r rhai sy'n cyrraedd Cymru yn cael ei ddarparu yn unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd gennym yn 2018 ar iechyd a llesiant ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Rwyf hefyd yn falch o nodi ein bod eisoes wedi cyfieithu deunyddiau i Wcreineg a Rwsieg ar sefydlogi cychwynnol i gefnogi iechyd meddwl y rhai sy'n cyrraedd o Wcráin, deunyddiau a fydd yn bwysig iawn pan fydd pobl wedi dioddef trawma. Ni allwch ddisgwyl i bobl ddod i mewn a bod yn barod i gael therapi; bydd yn rhaid iddynt fod yn teimlo'n ddiogel a sefydlog. Felly, mae hynny wedi'i wneud, ac mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd wedi cyhoeddi deunyddiau cymorth penodol i helpu gyda sefydlogi yn ystod y cyfnod adsefydlu cychwynnol. Mae gennym hefyd ein llinell gymorth iechyd meddwl CALL—mae honno hefyd ar gael i gefnogi pobl sy'n cyrraedd Cymru a'u teuluoedd, ac mae gan CALL fynediad at rywbeth o'r enw Llinell Iaith, sy'n golygu y bydd modd i rywun ddod o hyd i wasanaethau drwy ddefnyddio iaith fel Rwsieg neu Wcreineg os ydynt eisiau gwneud hynny.