Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 23 Mawrth 2022.
Wel, diolch yn fawr, Jack. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pwysau gwirioneddol ar wasanaethau deintyddol, yn rhannol oherwydd COVID a’r ffaith bod chwistrellu aerosol yn golygu bod lledaeniad COVID yn fwy tebygol. Mae adferiad yn digwydd, ond yn amlwg, mae hynny'n anodd iawn ac yn araf iawn, ac rwy'n cydnabod bod yna ardaloedd lle mae'n anos cael mynediad at ofal deintyddol nag eraill.
Byddaf yn siarad ac yn cyfarfod â chadeiryddion y byrddau iechyd yfory, a'r prif weithredwyr, ac mae hyn yn sicr yn rhywbeth sydd gennyf ar yr agenda, a byddaf yn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn yng nghynigion eu cynllun tymor canolig integredig.