2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 23 Mawrth 2022.
7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i helpu trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy i gael mynediad at ddeintydd GIG? OQ57849
Rydym yn gweithio ar ddiwygio'r system ddeintyddiaeth ac yn bwrw ymlaen ar y cyd â’r rhaglen ddiwygio yn 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda phractisau i wella mynediad, profiad ac ansawdd gofal deintyddol.
Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Ddoe, eglurodd y Prif Weinidog yr heriau yr ydym yn eu hwynebu ym maes deintyddiaeth ar hyn o bryd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Ond mae trigolion Alun a Glannau Dyfrdwy yn teimlo effaith yr heriau hynny'n fawr, ac maent yn dod ataf, fel eu Haelod etholedig uniongyrchol o’r Senedd, am eu bod yn cael trafferth gweld deintydd y GIG. A wnewch chi ymrwymo heddiw, Weinidog, i sicrhau bod eich swyddogion yn siarad nid yn unig â’r practisau ond â’r bwrdd iechyd hefyd, er mwyn llunio cynllun i wneud yn siŵr fod pawb sydd eisiau gweld ac sydd angen gweld deintydd yn Alun a Glannau Dyfrdwy yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG yn Alun a Glannau Dyfrdwy?
Wel, diolch yn fawr, Jack. Fe fyddwch yn ymwybodol fod pwysau gwirioneddol ar wasanaethau deintyddol, yn rhannol oherwydd COVID a’r ffaith bod chwistrellu aerosol yn golygu bod lledaeniad COVID yn fwy tebygol. Mae adferiad yn digwydd, ond yn amlwg, mae hynny'n anodd iawn ac yn araf iawn, ac rwy'n cydnabod bod yna ardaloedd lle mae'n anos cael mynediad at ofal deintyddol nag eraill.
Byddaf yn siarad ac yn cyfarfod â chadeiryddion y byrddau iechyd yfory, a'r prif weithredwyr, ac mae hyn yn sicr yn rhywbeth sydd gennyf ar yr agenda, a byddaf yn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn yng nghynigion eu cynllun tymor canolig integredig.
Mae gennyf berthnasau yn sir y Fflint sydd wedi cael trafferth cael mynediad at ddeintydd y GIG, a chawsant driniaeth yn ddiweddar, diolch byth, ar ôl wythnosau mewn cryn dipyn o boen. Gwyddom fod Betsi Cadwaladr, ym mis Ionawr, wedi mynnu bod angen cymryd camau i fynd i’r afael â deintyddiaeth yn y gogledd, ar ôl i 83 o swyddi deintyddol gael eu colli yng Nghymru yn ystod y flwyddyn, a rhybuddiodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain fod nifer sylweddol o ddeintyddion yn bwriadu gadael y GIG, gan ddweud bod deintyddiaeth y GIG yn y fantol, oherwydd heb ddeintyddion y GIG, ni fyddai deintyddiaeth y GIG yn bodoli. Ac yn gynharach y mis hwn, cyflwynodd Bupa Dental Care hysbysiad o derfyniad ar gyfer eu cangen yn y Fflint, sy'n ffinio ag Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae 16 mlynedd ers i Bwyllgor Rhanbarth Gogledd Cymru fynegi pryderon fod argyfwng ar y ffordd ym maes deintyddiaeth y GIG yng Nghymru, a dyma ni, yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach, yn y sefyllfa hon.
Felly, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i ymgysylltu â Chymdeithas Ddeintyddol Prydain er mwyn mynd i’r afael â’u pryderon ynghylch y contractau deintyddiaeth, fod y rhain yn lleihau’r ffocws ar archwiliadau rheolaidd, yn gorfodi deintyddion i ddewis rhwng hen gleifion a chleifion newydd, ac yn ariannu deintyddion 15 y cant yn llai na chwe blynedd yn ôl?
Wel, diolch yn fawr. Rydym yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain i archwilio sut y gall diwygio'r contract deintyddol cenedlaethol annog practisau deintyddol i gydweithio ar lefel leol. Rwy’n siŵr y byddwch yn falch o glywed, mewn perthynas â Bupa yn y Fflint, fod y bwrdd iechyd yn bwriadu ailgomisiynu gwasanaethau i gymryd eu lle yn yr ardal cyn gynted â phosibl.
Mae'n debyg ei bod yn werth pwysleisio ein bod wedi darparu £3 miliwn yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon, a'r hyn a welwn, mewn gwirionedd, yw nad yw deintyddion yn manteisio ar yr arian hwnnw. Rydym yn rhoi'r arian ar y bwrdd, ond byddai'n well ganddynt weithio yn eu practisau preifat, ac mae honno'n her anodd iawn i ni, ond rydym yn gwneud ymrwymiad mwy hirdymor: £2 filiwn o gyllid rheolaidd ychwanegol i gefnogi mwy o ddarpariaeth. Rydym hefyd wedi rhoi bron i £0.5 miliwn i fyrddau iechyd i gynorthwyo practisau deintyddol i ddarparu gwasanaethau GIG ac i osod offer awyru newydd. Felly, rydym yn gwneud popeth a allwn. Ar ryw bwynt—. Mae mwy y gallwn ei wneud. Mae mwy y gallwn ei wneud bob amser, ac yn sicr, dyna un o'r rhesymau pam fod hyn yn un o fy mhwyntiau allweddol ar yr agenda i'w trafod gyda'r byrddau iechyd yfory.
Mae cwestiwn 8 [OQ57838] wedi ei dynnu yn ôl, felly, yn olaf, cwestiwn 9, Sam Rowlands.