Part of the debate – Senedd Cymru am 3:58 pm ar 23 Mawrth 2022.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau am gyflwyno'r eitem hon i'w thrafod. Fel y gŵyr nifer yma eisoes, rwy'n siomedig o weld cynifer o adeiladau hanesyddol ledled Cymru yn cael eu gadael yn segur ac yna, o ganlyniad, yn cael eu chwalu a'u dymchwel er mwyn codi adeiladau mwy newydd a mwy dinod yn eu lle, adeiladau nad ydynt yn cyfrannu at hunaniaeth ardal. Mae cael gwared ar adeiladau fel hen eglwysi a chapeli yn newid ein tirwedd drefol yn y pen draw, ac yn fy marn i, mae'n cael effaith negyddol ar y ffordd yr ydym yn cysylltu ac yn uniaethu â'r mannau lle'r ydym yn byw. At hynny, rydym yn colli ein cysylltiad diriaethol â'n hanes ein hunain. Er bod amgueddfeydd yn darparu enghreifftiau priodol, wrth inni ddatblygu ein hardaloedd trefol, mae perygl inni erydu hunaniaeth ein cymunedau.
Yn bersonol, ac fel y dywedwyd eisoes, mae adeiladau crefyddol yn rhan bwysig iawn o'n cymuned, ac maent wedi darparu lloches a gobaith i genedlaethau o bobl drwy rai o'r adegau mwyaf cythryblus yn hanes ein cenedl. Wrth inni gael gwared ar ein mannau addoli, rydym yn dynodi'n anfwriadol fod colli ein crefydd yn beth da, sydd yn fy marn i yn sefyllfa drist, oherwydd mae'n normaleiddio'r farn nad yw ein hysbrydolrwydd a'n cysylltiad â phŵer uwch yn berthnasol mwyach.
Yn y pentref lle rwy'n byw, Llanilltud Faerdref, mae capel Methodistiaid Calfinaidd Bethesda ac eglwys haearn rhychiog gwyrdd Sant Andrew bellach yn atgofion pell. Nid anghofiaf gapel Methodistiaid Calfinaidd Trinity a'r effaith a gafodd arnaf pan yrrais rownd y gornel un diwrnod i weld yr adeilad a fu yn fy nghymuned ers 1913, heb rybudd i'r gweddill ohonom yn y pentref, yn ddim byd ond pentwr o frics ar y ddaear. Cyfrannodd pob un o'r adeiladau hyn at hanes fy mhentref a'i siapio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, a bellach rwy'n ofni y bydd y genhedlaeth nesaf a phobl sy'n symud i'r ardal yn gweld fy mhentref fel dim mwy nag ystâd enfawr o dai heb hanes na hunaniaeth unigryw ei hun.
Er bod cymunedau o bosibl wedi cefnu ar addoli yn yr adeiladau hyn, a bod y rheswm dros eu defnydd gwreiddiol wedi pylu, ni ddylem fod mor barod i ganiatáu iddynt gael eu dinistrio, oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl i fod cymunedau'n dal i fod eu heisiau ac y byddent yn falch o'u gweld yn cael eu hachub a'u haddasu at ddibenion gwahanol, gan barhau i wasanaethu'r gymuned yn yr ysbryd y cawsant eu hadeiladu. Byddwn hefyd yn dadlau y byddai sefydliadau sy'n berchen ar yr adeiladau crefyddol hyn yn croesawu eu gweld yn cael eu hailddefnyddio yn hytrach na'u dymchwel ac y byddent yn barod i gynnig eu cymorth a'u gwasanaethau i wneud hynny mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Gyda hyn mewn golwg, hoffwn bwysleisio bod angen inni wneud mwy fel cenedl sy'n cydnabod pwysigrwydd llesiant ein cymunedau i'w helpu i addasu'r adeiladau crefyddol a hanesyddol eraill hyn at ddibenion gwahanol. Yn ddiweddar, cyfarfûm â chymdeithas dai ynglŷn â'u cynlluniau i ddymchwel hen ysgol yn fy rhanbarth, ac un o'r rhesymau pam y maent yn gwneud hyn yn hytrach na'i hadnewyddu yw oherwydd defnydd aneffeithlon yr adeilad o ynni a'r diffyg cymorth ariannol i wneud unrhyw beth i'w wella. O ystyried hyn a'r angen digynsail i adeiladu dyfodol sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, mae angen inni ddarparu lefel fwy addas o adnoddau cyhoeddus i gymunedau, asiantaethau a grwpiau crefyddol allu uwchraddio effeithlonrwydd ynni'r adeiladau hyn a'u helpu i gyrraedd targedau datgarboneiddio.
Yn olaf, fel y soniwyd eisoes, o ystyried gwerth adeiladau crefyddol i'r gymuned a'u gwerth posibl i dwristiaeth, fel teithiau pererindod a llwybrau hanesyddol, rwy'n credu y dylem ddarparu tystiolaeth a chefnogaeth glir y gall cymunedau addasu neu adfywio eu hadeiladau crefyddol a'u galluogi i barhau i wasanaethu eu cymunedau cyn y caiff rhagor eu colli. Diolch, Lywydd dros dro, a hoffwn annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.