Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 23 Mawrth 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig a gyflwynwyd yn fy enw.
Ddirprwy Lywydd, os gall yr Aelodau fwrw golwg yn ôl i'r hydref diwethaf, byddant yn cofio'r problemau gyda'r gadwyn gyflenwi a oedd yn effeithio ar ein bywydau: rhai siopau'n mynd yn brin o gynhyrchion penodol, blaengyrtiau petrol yn mynd yn sych, ac ymdrechion brys gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ymyrryd a chefnogi ein cadwyni cyflenwi hanfodol. Penderfynodd y pwyllgor gynnal ymchwiliad i'r problemau hyn gyda'r gadwyn gyflenwi ac mae wedi cyhoeddi adroddiad, 'Cyfeiriad Newydd ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm: Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi'.
Nawr, yn ystod ein hymchwiliad, gwelsom fod y problemau sy'n arwain at fethiannau'r gadwyn gyflenwi yn niferus ac yn gymhleth. Roeddent yn cynnwys y pandemig, trefniadau masnachu newydd ar ôl inni adael yr UE, a hyd yn oed digwyddiadau byd-eang fel llong Ever Given yn mynd yn sownd yng nghamlas Suez. Fodd bynnag, un o'r prif resymau dros yr aflonyddwch oedd prinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm.
Gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yw asgwrn cefn ein rhwydwaith logisteg ac fel y gwelsom y llynedd, daeth nifer o ffactorau at ei gilydd i achosi prinder gyrwyr. Clywodd y pwyllgor fod y DU yn brin o rhwng 60,000 a 100,000 o yrwyr cyn y pandemig. Y diffyg hanesyddol hwn oedd un o'r ffactorau allweddol a arweiniodd at y prinder enbyd o yrwyr. Fodd bynnag, eglurodd Logistics UK fod y cyfuniad o derfynu aelodaeth o'r UE a diwedd cyfnod pontio'r UE, ynghyd â phandemig COVID, wedi trawsnewid y prinder yn argyfwng difrifol. Yna cafodd y problemau eu dwysáu ymhellach pan gafodd profion gyrru cerbydau nwyddau trwm eu gohirio yn ystod y pandemig, gan achosi ôl-groniad ac amser aros o 10 wythnos am brawf gyrru.
Ac felly wynebodd y diwydiant storm berffaith yn 2020-21, pan ddaeth nifer o broblemau at ei gilydd ar yr un pryd. Penderfynodd y pwyllgor ganolbwyntio ar y problemau hynny, gan y bydd sicrhau bod gan Gymru ddigon o yrwyr cerbydau nwyddau trwm yn hanfodol os ydym am gadw cadwyni cyflenwi ar agor ac osgoi methiannau tebyg yn y dyfodol. Roedd ein hymchwiliad yn fyr ac yn bwrpasol. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys cludwyr, perchnogion busnesau ac undebau llafur. Gwnaethom hefyd ymgysylltu'n uniongyrchol â gyrwyr cerbydau nwyddau trwm o'r gorffennol a'r presennol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r ymchwiliad.
Roedd yr adborth a gawsom o'r ymgysylltiad â gyrwyr yn bwerus ac ein gosod ar ben ffordd. Nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedodd rhai o'r cyfranogwyr, rhag imi gael fy hel o'r Siambr hon. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod yna sawl problem ynghlwm wrth y profiad o fod yn yrrwr cerbyd nwyddau trwm ar hyn o bryd. Cafodd llawer o'r themâu a ddaeth yn amlwg gan y gyrwyr eu hadleisio, mewn iaith fwy seneddol, gan randdeiliaid eraill.
Nawr, mae'r adroddiad yn gwneud 11 o argymhellion ynghylch gwella hyfforddiant ac amodau gwaith gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Mae'r pwyllgor yn edrych ar gynllun logisteg a chludo nwyddau Llywodraeth Cymru sydd ar y ffordd fel cyfle i roi'r rhain ar waith. Ac fe amlinellaf yn fras rai o'r argymhellion yn y man. Os cyflawnir yr argymhellion hyn, mae'r pwyllgor yn credu y bydd hyn yn gwella'r profiad o fod yn yrrwr cerbyd nwyddau trwm ac yn creu opsiwn gyrfa mwy deniadol i'r rhai sydd yn y proffesiwn ar hyn o bryd, a'r rhai sy'n ystyried ymuno â'r proffesiwn, gan ddenu gyrwyr newydd, a chadw gyrwyr presennol yn y diwydiant.
Mae'r pwyllgor yn argymell gwella hyfforddiant gyrwyr a datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn dod â newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant a helpu datblygiad gyrfa'r rhai sydd eisoes yn gyrru. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r diwydiant i adeiladu ar raglenni prentisiaeth presennol a chynyddu mynediad i yrwyr newydd.
Un o'r meysydd pryder allweddol a godwyd gan yrwyr oedd y profiad cyffredinol o yrru cerbyd nwyddau trwm. Roeddent yn sôn am fannau gorffwys o ansawdd gwael gyda bwyd gwael ond drud, cyfleusterau budr a diffyg diogelwch yn aml. Un o'r darnau mwyaf pryderus o dystiolaeth a glywsom oedd bod gyrwyr yn ystyried ymosodiadau a lladradau fel perygl sy'n mynd gyda'r swydd, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Dywedodd un gyrrwr wrthym,
'Ni allwch gysgu'n iawn pan fyddwch yn poeni y bydd rhywun yn dwyn oddi wrthych. Mae pob sŵn bach yn eich deffro. Nid oes neb eisiau gyrru pan fydd wedi blino.'
Dywedodd gyrrwr arall wrthym:
'Mae rhywun wedi dwyn oddi arnaf dros 10 gwaith. Mae'n beth ofnadwy i'w gyfaddef ond rydych yn ei ddisgwyl. Y tro diwethaf, fe wnaethant dorri tri thwll yn y llen a oedd yn ddigon mawr i yrru cerbyd drwyddynt, roedd hanner fy llwyth ar y gilfan yn barod i gael ei ddwyn. Mae hyd yn oed yr heddlu yn ei ystyried yn berygl galwedigaethol. Fel gyrwyr, rydym yn ei dderbyn.'
Wel, Ddirprwy Lywydd, ni ddylai gyrwyr cerbydau nwyddau trwm orfod ei dderbyn. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio'n gyflym gyda'u partneriaid i wella cyfleusterau gorffwys i yrwyr a sicrhau bod y cyfleusterau hynny mor ddiogel â phosibl. Dylai hyn gynnwys arolygu'r ddarpariaeth bresennol, llenwi bylchau lle maent yn bodoli a gweithio i ddatblygu system safonau wirfoddol fel y gall gyrwyr weld beth yw ansawdd a lefel ddiogelwch mannau gorffwys yn hawdd.
Fel y soniwyd yn gynharach, mae strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru, 'Llwybr Newydd', yn cynnwys ymrwymiad i greu cynllun logisteg a chludo nwyddau newydd. O ystyried y prinder dybryd o yrwyr, mae'r pwyllgor yn teimlo y dylid blaenoriaethu'r cynllun newydd.
Nawr, rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn ein hadroddiad. Fodd bynnag, rwy'n pryderu y bydd yr argymhellion pwysicaf, er enghraifft yr arolwg o fannau gorffwys a gwaith i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth, yn cael eu gweithredu fel rhan o'r cynllun logisteg a chludo nwyddau, nad oes disgwyl iddo gael ei gwblhau nes 2024. Rwy'n annog y Llywodraeth i flaenoriaethu'r rhannau hyn o'r cynllun ac os yw'n bosibl, cwblhau'r elfennau hyn o'r gwaith cyn 2024. Mae hyn yn gwbl hanfodol.
Fis diwethaf, cefais lythyr gan y sefydliad Alltudion ar Waith, a ddywedodd wrthyf fod gan lawer o bobl Affganistan a gyrhaeddodd Gymru y llynedd brofiad o yrru cerbydau mawr ac y byddai ganddynt ddiddordeb mewn gyrfaoedd fel gyrwyr cerbydau nwyddau trwm. Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol ynglŷn â hyn ac edrychaf ymlaen at ymateb maes o law. Tra bod y sefyllfa gyda dyfodiad ffoaduriaid o Wcráin yn dal i ddatblygu, efallai y bydd yn addas i'r Llywodraeth feddwl am ymestyn unrhyw beth a gynigir i'r bobl sy'n cyrraedd o Affganistan i gynnwys pobl sy'n cyrraedd o Wcráin hefyd.
O gadw bwyd ar ein silffoedd i ddarparu cyflenwadau meddygol hanfodol, mae'n deg dweud bod gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn rhai o arwyr di-glod y pandemig. Byddai gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn gwella profiad gyrwyr a mynediad i'r diwydiant. Er bod y problemau a welsom cyn y Nadolig wedi'u datrys i raddau helaeth, mae cadwyni cyflenwi'n dal i fod dan bwysau ac rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus. Nid yw'n bosibl rhagweld a fydd ergyd arall yn taro ein cadwyni cyflenwi byd-eang na phryd y bydd hynny'n digwydd. Mae hyn yn golygu ei bod yn eithriadol o bwysig ein bod yn canolbwyntio ar wella'r rhannau o'r system y mae gennym reolaeth drostynt.