6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: 'Cyfeiriad newydd ar gyfer gyrwyr cerbydau nwyddau trwm — Mynd i'r afael â diffyg gyrwyr cerbydau nwyddau trwm a phroblemau cysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:34, 23 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Fel aelod o bwyllgor yr economi, hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch ein Cadeirydd, Paul Davies, i bawb a gefnogodd neu a gymerodd ran yn ein hymchwiliad. Mae'n bwnc pwysig iawn sydd yn ei hanfod yn ymchwilio i rywbeth sy'n cyffwrdd â bywydau holl ddinasyddion Cymru yn ddyddiol, hynny yw, y ffordd y mae nwyddau a chynhyrchion yn cyrraedd ein silffoedd yn ein cymunedau, a sut rydym yn trin y bobl sy'n chwarae rôl hanfodol yn cludo’r nwyddau hynny, sut rydym yn sicrhau eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi a’u bod yn gallu cael mynediad at gyfleusterau priodol yn ystod y cyfnodau gorffwys gwerthfawr hynny, sy'n bwysig ar gyfer eu llesiant, ond hefyd ar gyfer eu diogelwch a diogelwch eraill.

Ar gyfer fy nghyfraniad i’r ddadl heddiw, hoffwn nodi tri edefyn o’n gwaith sy’n fy nharo fel rhai arbennig o bwysig. Yn gyntaf, argymhelliad 1 ynghylch hyfforddiant a phrentisiaethau: rwy’n cydnabod sylwadau Llywodraeth Cymru yn eu hymateb fod eu gallu i ymyrryd yn y maes polisi penodol hwn, yn y mater penodol hwn, yn gyfyngedig gan y cedwir rhai cyfrifoldebau yn ôl. Fodd bynnag, fel yr aiff eu hymateb ymlaen i’w nodi, mae’r argymhelliad hwn yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ynghylch sgiliau, ac wrth gwrs, yr addewid pwysig ynglŷn â phrentisiaethau ar gyfer tymor y Senedd hon.

Crybwyllwyd nifer o ymyriadau yn ymateb Llywodraeth Cymru, megis y cyfrif dysgu personol, ReAct, a phrentisiaethau logisteg, a hoffwn wybod gan y Dirprwy Weinidog sut y mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y cyrsiau hyn ar gyfer pobl sy’n gweithio neu sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector. Mae rhoi cyhoeddusrwydd i’r cyfleoedd hyn mor bwysig os ydym am fynd i’r afael â’r prinder o 50,000 yn nifer y gyrwyr.

Yn yr un modd, mae argymhellion 7 ac 8 yn faterion a gedwir yn ôl i raddau helaeth, ond lle mae’r materion canolog sydd wrth eu gwraidd yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r agenda gwaith teg, a byddwn yn croesawu rhagor o fanylion ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag undebau llafur perthnasol i lobïo Gweinidogion y DU, fel y gellir cyflawni’r dyheadau a rennir rhwng y pwyllgor a Gweinidogion Cymru.

Rwyf hefyd am ystyried argymhellion 3 i 5 yn gryno, ac mae pob un yn ymwneud â darparu mannau gorffwys digonol. Rwy'n teimlo bod yr argymhellion yn allweddol i’r gwaith hwn. Fel y clywodd y pwyllgor, anghysur a achosir gan gyfleusterau gorffwys annigonol, neu ddiffyg cyfleusterau gorffwys hyd yn oed, yw un o’r ffactorau mwyaf sy’n peri i yrwyr cerbydau nwyddau trwm adael y diwydiant.

Hoffwn esbonio fy mhwynt yn gryno drwy gyfeirio at un o arwyr fy mhlentyndod, sef yr eicon ffeministaidd, Long Distance Clara. Efallai y bydd y rheini sy'n cofio Pigeon Street yn cofio mai Long Distance Clara oedd y gyrrwr jygarnotiaid pellter hir a oedd yn chwalu ystrydebau, ac a allai yrru o un pegwn i'r llall, o'r dwyrain i'r gorllewin; nid oedd unman yn rhy bell i Clara. Fodd bynnag, efallai fod ei llwyddiant yn seiliedig ar y cinio poeth y gallai fod yn sicr ohono ar ddiwedd ei thaith. Ac roedd y rôl bwysig a chwaraeai, y pellteroedd y gellid disgwyl iddi eu teithio, yn oddefadwy oherwydd yr adegau o orffwys ac ymlacio y gallai eu cymryd ar ei thaith.

Mae’r pwynt yn un difrifol, gan y cododd y gyrwyr a roddodd dystiolaeth i ni lu o bryderon ynghylch prinder mannau diogel i barcio. Pan fyddai lleoedd ar gael i barcio, gallai'r cyfleusterau fod yn is na'r safon ac yn anaddas i'r diben. Dywedwyd wrthym am gawodydd wedi torri, teils wedi torri a chyfleusterau golchi budr, a soniodd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd am arosfannau lle nad oedd toiledau hyd yn oed. Ac yna, efallai yn fwyaf difrifol, nid oedd y cyfleusterau hyn yn ddiogel—fel y mae ein Cadeirydd wedi crybwyll—gyda thystion yn dweud bod eiddo wedi'i ddwyn oddi arnynt hyd at 10 gwaith. Nid yw hyn yn ddigon da.

Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu unrhyw wybodaeth ychwanegol y gellid ei rhoi ynghylch amserlenni ar gyfer cyflawni’r gwelliannau hyn, fel y gall gyrwyr cerbydau nwyddau trwm gael cyfleusterau diogel sy’n addas i'r diben at eu defnydd, a gallwn gael gwared ar y rhwystr penodol hwnnw sy’n cael cymaint o effaith. Diolch.