Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 23 Mawrth 2022.
Mae'r prinder gyrwyr, wrth gwrs, yn gwaethygu problemau domestig a byd-eang ehangach gyda chadwyni cyflenwi, gan arwain at godi costau yn gyffredinol ac amseroedd cyflenwi hirach ar gyfer ystod eang o nwyddau. Ar hyn o bryd, credwn nad oes unrhyw sector penodol yn economi Cymru yn wynebu risgiau difrifol o ganlyniad i broblemau cyflenwi, ond bydd cydnerthedd cadwyn gyflenwi Cymru yn parhau i fod yn fregus wrth inni ddod allan o gyfnod y gaeaf. Rydym yn fwy agored nag arfer i niwed felly yn sgil digwyddiadau aflonyddgar, megis tywydd garw, argyfwng Wcráin, a gweithredu diwydiannol mewn porthladdoedd. Ceir risg uwch o brinder annisgwyl a heb rybudd o nwyddau critigol, gyda’r posibilrwydd o effeithiau ehangach ar wasanaethau cyhoeddus a busnesau. Mae’r rhesymau dros y prinder wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, gan gynnwys gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn ymddeol yn y DU, niferoedd sylweddol o yrwyr o’r UE yn dychwelyd i Ewrop ar ôl Brexit, newidiadau treth IR35 yn effeithio ar yrwyr, ac wrth gwrs, fel y clywsom, yr ôl-groniad o bobl sy'n aros am brofion gyrru oherwydd COVID.
Amcangyfrifodd yr Adran Drafnidiaeth fod prinder o rhwng 70,000 a 90,000 o yrwyr cerbydau nwyddau trwm, ac er bod y prinder wedi bod yn datblygu ers nifer o flynyddoedd, fel y nododd Sam Kurtz, mae wedi’i gyflymu gan effeithiau Brexit a’r pandemig, fel rwyf wedi'i nodi eisoes. Ond barn y diwydiant yw nad yw'r rhain yn broblemau sy'n gyfyngedig i yrwyr cerbydau nwyddau trwm Cymru; mae’r broblem, fel y gwyddom, yn broblem ledled y DU. Ac er bod y rhan fwyaf o'r pwerau sy'n ymwneud â'r materion hyn yn bwerau a gedwir yn ôl, gan gynnwys oriau gyrwyr a thrwyddedu gyrwyr, gan gynnwys hyfforddi, profi ac ardystio, rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi'r diwydiant.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a all i liniaru’r materion hyn ymhellach. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda’r diwydiant, ac rydym wedi addasu rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau presennol i ehangu’r cyllid sydd ar gael i hyfforddi gyrwyr lorïau. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfrifon dysgu personol a rhaglen ReAct. Mae gan ein rhaglen brentisiaeth nifer o opsiynau sy’n canolbwyntio ar logisteg, gan gynnwys lefel 2 a lefel 3 mewn gyrru cerbydau nwyddau. Ac mae swyddogion yn gweithio'n agos gyda Cymru'n Gweithio, gwasanaeth cyfarwyddyd i oedolion Gyrfa Cymru, i sicrhau bod ffoaduriaid sy'n ymgartrefu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at raglen ReAct, a'i rhaglen olynol, ReAct+. Gall y rhaglen ddarparu hyd at £1,500 tuag at y gost o gaffael trwydded yrru'r DU a chymwysterau cysylltiedig, megis y dystysgrif cymhwysedd proffesiynol i yrwyr.
Yn ogystal, fel y nodwyd, rydym wedi ymrwymo i gynllun logisteg a chludo nwyddau newydd i Gymru, o dan strategaeth drafnidiaeth Cymru, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, y sector, a phartneriaid eraill, i ddatblygu’r cynllun hwn ac i sicrhau ein bod yn ymgorffori’r argymhellion o adroddiad y pwyllgor yn y cynllun. Ond byddaf yn siarad â fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, i weld a allwn fynd i'r afael â mater archwilio cyfleusterau gyrwyr, gan ei bod yn ymddangos bod honno'n thema arbennig o gyffredin a phwysig a godwyd gan y pwyllgor a thrwy'r dystiolaeth a gafwyd.
Mae cyrff y diwydiant yn ddiolchgar am y mesurau a ddatblygwyd gan Lywodraeth y DU wrth gwrs, ond maent yn parhau i fod o’r farn y byddai newidiadau tymor byr i bolisi mewnfudo, ochr yn ochr â newidiadau rheoleiddiol i gyflwyno llwybr carlam i ddod â gyrwyr i mewn i’r diwydiant, yn helpu i leddfu’r pwysau yn y tymor byr. Yn fwy hirdymor, mae cyfle i wrthdroi’r problemau sydd wedi bod yn datblygu yn y diwydiant dros nifer o flynyddoedd, ac i greu sector mwy cynaliadwy a gwydn sy’n cynnig cyflog ac amodau gwaith tecach i yrwyr. Ni ddylai mesurau dros dro Llywodraeth y DU danseilio’r dyhead mwy hirdymor hwn.
Ni ellir gwahanu'r heriau y mae cyflogwyr gyrwyr cerbydau nwyddau trwm yn eu hwynebu gyda recriwtio a chadw gweithwyr oddi wrth yr amodau gwaith y mae cyflogwyr yn eu darparu. Mae a wnelo hyn â mwy na chyflog yn unig, mae'n ymwneud â gyrwyr yn cael eu trin yn dda a chyda pharch gan gyflogwyr sy'n eu gwerthfawrogi. Felly, mae rôl arweiniol bwysig i’r diwydiant yma, ac rydym yn annog y diwydiant i weithio’n adeiladol gydag undebau llafur i wella’r cynnig i yrwyr, gan y byddai amodau gwaith gwell yn helpu i ddenu a chadw gyrwyr a chreu marchnad lafur iachach a mwy gwydn. Byddai hyn o fudd i gyflogwyr a gweithwyr y diwydiant.
Rydym yn credu mewn partneriaeth gymdeithasol, a gellir gweld hynny yn y ffaith bod gennym Weinidog partneriaeth gymdeithasol, sy'n eistedd yma heddiw. Rydym am weithio gyda’r diwydiant cludo nwyddau, ac rydym yn gweithio gydag undebau llafur ac yn cael sgyrsiau gonest â hwy ynglŷn â sut yr awn y tu hwnt i atebion tymor byr i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu, a chreu newid mwy hirdymor a chynaliadwy i'r profiad o weithio. Cytunaf yn llwyr â Vikki Howells ei bod yn rhesymol disgwyl i Lywodraeth y DU edrych ar sut y gallant gynyddu nifer y gyrwyr benywaidd yn y sector. Ar hyn o bryd, dim ond 2 y cant o yrwyr sy'n fenywod, ac mae hwnnw’n amlwg yn faes lle y gallai recriwtio wedi’i dargedu helpu i wella’r ystadegyn hwnnw.
Mae'n amlwg fod y diwydiant o'r farn fod gwell cyfleusterau i yrwyr yn hanfodol er mwyn cynyddu cyfraddau recriwtio, ac rydym wedi sôn am hynny eisoes. Felly, roedd Llywodraeth Cymru yn siomedig o glywed y bydd y £32.5 miliwn o gyllid newydd i wella cyfleusterau parcio lorïau ar gael i Loegr yn unig. Er bod y rhain yn faterion a gedwir yn ôl, rydym wedi sefydlu grwpiau traws-bolisi i adolygu’r problemau diweddaraf, gan gynnwys hyfforddiant ac amodau ar ochr y ffordd. Rydym yn mynd ati i weithio ar nifer o feysydd i fynd i’r afael â’r sector a’i gefnogi, ac mae hyn yn cynnwys gweithio ar ystod o fesurau lliniaru ac ymyriadau gydag amrywiol adrannau Llywodraeth y DU, yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a chyrff cynrychiadol ym maes logisteg.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i hyrwyddo ystod o gyfleoedd sydd ar gael ar draws y diwydiant logisteg yng Nghymru a sut i gael mynediad at yrru cerbydau nwyddau trwm fel gyrfa. Mae gennym gysylltiad rheolaidd â changhennau Cymru o’r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd a Logistics UK i gasglu gwybodaeth gan y diwydiant am brinder gyrwyr a bwydo hyn yn ôl i Lywodraeth y DU. Rydym wedi ymestyn mesurau i lacio amseroedd cyrffyw ar gyfer danfon nwyddau er mwyn helpu i ddarparu mwy o hyblygrwydd gweithredol.
Ddirprwy Lywydd, er gwaethaf y pryderon dilys am brinder gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, ceir rhai arwyddion fod y sefyllfa'n gwella. Mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd yn amcangyfrif bod y prinder gyrwyr wedi lleihau oddeutu 15,000 dros y chwe mis diwethaf o'r amcangyfrif blaenorol o oddeutu 100,000 o swyddi gwag. Fodd bynnag, er bod mwy o ymgeiswyr yn cael eu denu i’r sector gan gyflogau uwch a’r mesurau a roddwyd ar waith gan y Llywodraeth ledled y DU, mae llawer o bobl o fewn y diwydiant yn credu y bydd yn dal i gymryd misoedd lawer, os nad blynyddoedd, i unioni'r sefyllfa’n llawn. Felly, byddwn yn parhau i weithio gyda’r pwyllgor a chyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y sector yn cael y cymorth sydd ei angen arno i barhau i gyflawni ar gyfer y DU gyfan. Diolch yn fawr.