Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 23 Mawrth 2022.
Mae'r cynnydd y mae'r ddynoliaeth wedi'i wneud hyd yma yn deillio o'r chwyldro amaethyddol. Heb i ffermio allu bwydo'r boblogaeth, ni fyddem wedi cael ein chwyldro diwydiannol, sy'n ffurfio'r byd yr ydym yn byw ynddo heddiw. Mae gallu cynnal poblogaeth sy'n tyfu â bwyd dibynadwy o ansawdd da yn allweddol i'r gymdeithas sefydlog a ffyniannus y byddai pob un ohonom yn gobeithio byw ynddi. Byddwn yn dadlau bod diogelwch y cyflenwad bwyd yr un mor bwysig yn awr ag y bu erioed. Mae cyflenwadau bwyd digonol o ansawdd da wedi caniatáu i'n cymdeithas esblygu a meithrin mwy o sgiliau. Ond mae hyn yn gwbl ddibynnol ar allu ein ffermwyr i gynhyrchu'r bwyd sydd ei angen arnom. Y rhai sy'n cynhyrchu ein bwyd yw asgwrn cefn ein bodolaeth. Rwyf fi ac Aelodau eraill o'r Senedd yn fy mhlaid, fel Sam Kurtz, Peter Fox a'n harweinydd goleuedig, Andrew R.T. Davies, wedi gweithio, ac yn dal i weithio yn y diwydiant ffermio, ac yn gwybod yn iawn am gymhlethdodau'r sefyllfaoedd sy'n ein hwynebu.
Y peth cyntaf y mae llawer ohonom yn ei wneud pan fyddwn yn deffro yw meddwl beth a gawn i frecwast, cinio neu swper—neu yn fy achos i, rwy'n tueddu i feddwl am hynny cyn gynted ag y bydd y pryd ddiwethaf wedi'i fwyta. Ond hyd yn oed ar adegau o argyfwng ac anhrefn, ein hangen dynol sylfaenol yw bwyd a dŵr i'n galluogi i oroesi, a dylai pawb allu cael hynny. Bellach, caiff bwyd ei weld fel nwydd a fasnechir ar draws y byd; mae globaleiddio bwyd yn golygu bellach ein bod wedi dod yn agored i ergydion mewn gwledydd ledled y byd. Rydym yn byw mewn cyfnod ansicr, lle bydd ein dibyniaeth arferol ar farchnadoedd a arferai fod yn sefydlog yn cael ei phrofi. Fel y dywedwyd, mae'r sefyllfa yn Wcráin a Rwsia yn peri pryder sylweddol i bob un ohonom, gan fygwth cyflenwadau'r byd o flawd, grawn a gwrtaith a chemegau i farchnad y DU, pethau y mae arnom eu hangen.
Gall prinder bwyd a phrisiau cynyddol fygwth trefn y byd. Gallai codi pris bara yn Affrica a'r dwyrain canol ansefydlogi llawer o lywodraethau a democratiaethau. Gwelsom drosom ein hunain, yma yn ein gwlad ni, yn ystod COVID fod silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd wedi achosi panig eang, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw cadw ein gwlad wedi'i bwydo. Rhaid inni sicrhau, yma yng Nghymru, ein bod yn gallu gwrthsefyll ergydion gwleidyddol, ffisegol ac ariannol o bob cwr o'r byd. Gwta ddeuddydd yn ôl, cafwyd erthygl yn The New York Times dan y pennawd 'Ukraine War Threatens to Cause a Global Food Crisis'. Amlinellai'r darn y ffaith bryderus fod cyfran allweddol o wenith, corn a barlys y byd wedi'i ddal yn Rwsia ac Wcráin oherwydd y rhyfel, tra bod cyfrannau mwy fyth o wrtaith y byd wedi'i ddal yn Rwsia a Belarws heb unrhyw arwydd eu bod yn mynd i unman.
Mynegwyd pryderon ynghylch mewnforio bwyd neu fwydydd anifeiliaid, nid yn unig o safbwynt diogelwch y cyflenwad bwyd, ond mewn perthynas â'r difrod amgylcheddol y mae hyn yn ei achosi yn y gwledydd hynny ac ôl troed cludiant. Ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi hyrwyddo cynnyrch lleol o'r fferm i'r fforc ac addysgu ein pobl ifanc a'r genedl i wybod mwy ynglŷn â tharddiad eu bwyd. Ac mae'n rhaid inni fod yn falch o'n sector amaethyddol yma yng Nghymru: maent yn cynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf mewn modd cynaliadwy ac yn gwneud gwaith anhygoel ddydd ar ôl dydd. Dylem gefnogi'r sector hwn a chydnabod pa mor hanfodol ydynt i ddiogelu'r cyflenwad bwyd, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn y Papur Gwyn, yn gwneud diogelu'r cyflenwad bwyd yn rhan allweddol o hynny.
Rwy'n cymeradwyo Bil bwyd fy nghyd-Aelod, Peter Fox, i fynd i'r afael â gwastraff bwyd. Credaf y dylem symud oddi wrth fwyd cyfleus, a hyrwyddo cynnyrch lleol tymhorol wedi'i goginio gartref, a'r holl fanteision iechyd cysylltiedig a ddaw yn sgil hyn. Ers COVID, credaf fod gan boblogaeth Cymru well dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi a tharddiad eu bwyd, a gwelwyd newid yn ôl, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Kurtz, i brynu'n lleol a chefnogi ein busnesau lleol. Ond rwy'n credu bod angen inni ei wneud yn gliriach ar ddeunydd pacio bwyd, a nodi cynhyrchion lleol a tharddiad ein bwyd. Mae angen labelu gwell ar fwydydd fel y gallwn ddewis bwyta cynnyrch o Gymru neu Brydain. Ar hyn o bryd, mae llawer o fwydydd yn cael eu marchnata fel rhai Prydeinig er mai dim ond cael eu pecynnu yn y wlad hon y maent, a chredaf fod hynny'n warthus.
Rydym yn wynebu llawer o heriau yn y blynyddoedd a'r degawdau i ddod, o ryfeloedd i newid hinsawdd, a phob un ohonynt yn cryfhau ein dadl dros ddiogelu'r cyflenwad bwyd yn well o fewn ein ffiniau. Ac rwy'n erfyn ar Aelodau ar draws y Siambr i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw.