7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diogelwch Bwyd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 23 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 5:09, 23 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. Dwi'n cyflwyno'r gwelliant, a diolch i Sam Kurtz o'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl mewn modd mor huawdl yma. Yn elfennol, gellir berwi'r ddadl yma lawr i un egwyddor graidd, sef yr hawl i fwyd. Ond, yn anffodus, mae llawer gormod o bobl yn byw efo ansicrwydd bwyd, heb wybod o ble y daw eu pryd bwyd nesaf. Mae chwarter pobl Cymru yn byw mewn tlodi ac yn gorfod blaenoriaethu bwyd, neu wres, neu hanfodion eraill. Rŷn ni'n edrych ymlaen i weld taith y Bill bwyd rydyn ni wedi clywed amdano eisoes gan Sam—y daith honno drwy'r Senedd—er mwyn medru sicrhau datblygiadau cadarnhaol a chadarnhau'r ymrwymiad hynny am yr hawl i fwyd.

Ond mae'n sefyll i reswm, felly, os oes yna hawl i fwyd, yna mae'n rhaid cynhyrchu'r bwyd yma, ac allwn ni ddim dibynnu ar fewnforio bwyd o bob cwr o'r byd am byth. Mae argyfyngau diweddar, yn fwy penodol rhyfel Wcráin a'r argyfwng newid hinsawdd, yn dangos yn fwy nag erioed yr angen i ni ddatblygu ein gallu i dyfu a phrosesu bwyd yma yng Nghymru. Mae'r angen i gryfhau'r system gaffael gyhoeddus wrth gwrs yn allweddol i hyn, ond yn ganolog i'r cyfan mae ein ffermydd a'r bobl hynny sy'n gweithio ar ein ffermydd.

Rŵan, wrth sôn am ffermydd Cymru, gadewch i ni beidio ag anghofio bod y diwydiant yma yn wahanol iawn i'r diwydiant amaeth dros Glawdd Offa. Yn wir, mae'n unigryw i Gymru. Ffermydd bach, teuluol sydd gennym ni yma gan fwyaf, efo swyddi gwledig yn y cymunedau cyfagos yn ddibynnol arnyn nhw, heb sôn am hyfywedd diwylliannol y cymunedau hynny. Mae parhad y Gymraeg dros y ganrif ddiwethaf wedi bod yn ddibynnol i raddau helaeth ar y ffermydd a chymunedau gwledig yma.

Ond mae'r ffermydd yma hefyd yn llawer iawn mwy agored i unrhyw niwed a ddaw yn sgil cytundebau masnach gwael. Mae cytundebau megis y rhai diweddar sydd wedi cael eu cytuno rhwng y wladwriaeth hon ac Awstralia ac Aotearoa yn golygu bod ffermwyr Cymru bellach ar fympwy marchnad sy'n poeni dim amdanyn nhw ac nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drosto. Pe byddai yna newid, er enghraifft, yn y farchnad gig oen yn Tsieina neu'r Unol Daleithiau, yna buan iawn y gwelem ni gig oen o Aotearoa yn cael ei gyrru i'r Undeb Ewropeaidd neu i'r wladwriaeth hon, a gan nad oes tariff arno, yna bydd o'n tanseilio ein diwydiant ni yn llwyr. Yn wir, mae Undeb Amaethwyr Cymru yn rhagamcanu y bydd y cytundeb ag Awstralia yn arwain at gwymp o £29 miliwn yn GVA diwydiant cig coch Cymru, a gallai'r ddau gytundeb efo'i gilydd arwain at gwymp o £50 miliwn, heb sôn, wrth gwrs, am y cannoedd o filiynau o bunnoedd y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi torri o gyllideb ffermwyr yn sgil Brexit. Mae'n deg dweud bod y Ceidwadwyr wedi gadael ffermwyr Cymru mewn pydew tywyll iawn.

Mae ein gwelliant ni heddiw, felly, yn sôn yn benodol am yr angen i gynnull uwchgynhadledd fwyd er mwyn sicrhau diogelwch bwyd. Mae hyn, wrth gwrs, yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Efo pris gwrtaith a thanwydd wedi cynyddu yn aruthrol, rydym yn gweld ffermwyr yn gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn. Mae rhai yn gorfod gwerthu eu lloeau stôr yn gynnar er mwyn sicrhau incwm i dalu am y deunyddiau crai. Mae eraill yn gorfod dogni eu defnydd o wrtaith gan beryglu eu cnwd. Mae pris gwrtaith wedi cynyddu 200 y cant mewn llai na blwyddyn, a phorthiant wedi mynd i fyny dros 60 y cant yn yr un cyfnod.

Wrth gwrs, effaith hyn fydd effeithio ar ein gallu ni i gynhyrchu bwyd, sicrhau diogelwch bwyd yma ac, yn ei dro, effeithio ar incwm ffermydd ac economi wledig Cymru. Tra bod peth o'r cynnydd diweddar yn ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin, gadewch i ni beidio ag anghofio bod y cynnydd yma wedi bod ar waith ers misoedd cyn anfadwaith Putin. Mae'r argyfwng costau byw am gael effaith andwyol ar ein ffermydd a'n gallu i gynhyrchu bwyd, ac amcangyfrifir y gwelwn ni gostau bwyd yn yr archfarchnad yn cynyddu tua 20 y cant erbyn yr hydref.

Dyma pam mae angen cynnull uwchgynhadledd o'r fath, er mwyn sicrhau bod pob dim yn cael ei wneud i sicrhau y gall ein ffermydd barhau i gynhyrchu bwyd a chyfrannu at ein cymunedau. I'r perwyl yma, mae angen taliadau sefydlogrwydd ar ffermydd er mwyn sicrhau eu hyfywedd, ac mae angen archwilio pob ffordd bosib i leihau costau cynhyrchu.

Dwi'n nodi bod Sam Kurtz, yn ystod ei gyfraniad, wedi datgan siom ein bod ni wedi rhoi gwelliant. Dwi'n nodi hynny, ac yn diolch iddo fo a'r Ceidwadwyr am y cynnig, ond, wrth gwrs, mae ein gwelliant ni yn gwneud yn union hynny: yn cryfhau ac yn gwella cynnig rydyn ni'n cefnogi'r rhan fwyaf ohono. Felly, cefnogwch y gwelliant. Diolch yn fawr iawn.