10., 11. & 12. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:29, 29 Mawrth 2022

Mae yna dri set o reoliadau o'n blaenau ni heddiw. Mae'r ddau gyntaf yn estyn y sefyllfa bresennol. Gan ein bod ni mewn sefyllfa ddigon heriol ar hyn o bryd efo achosion uchel iawn o COVID, rydyn ni'n credu bod hynny'n beth synhwyrol iawn i'w wneud. Mi fyddwn ni yn cefnogi y rheoliadau hynny, felly, a dwi ddim yn meddwl bod angen sylwadau pellach gen i. Ond am yr union reswm rydyn ni yn mynd i gefnogi parhau â'r rheoliadau hynny, dydyn ni ddim yn gallu cefnogi diwygiad rhif 8, achos dydw i na'r meinciau yma ddim yn gallu deall pam bod y Llywodraeth wedi penderfynu symud i godi'r mesurau diogelwch yma ar y pwynt yma mewn amser.