Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 29 Mawrth 2022.
Mi ddywedodd y Gweinidog y prynhawn yma allwn ni ddim cadw rheoliadau yn eu lle am byth. Dwi'n cytuno yn llwyr, a phetasem ni'n cael y bleidlais yma mewn tair wythnos, dwi'n reit siŵr y buaswn i'n ei chefnogi, ond efo pobl sydd yn dal yn teimlo'n fregus ac yn nerfus yn gorfod mynd i siop neu fynd ar fws neu drên, pam creu mwy o risg iddyn nhw rŵan?
Y warchodaeth arall sy'n mynd yn llwyr rŵan ydy'r gofyn ar bobl i hunanynysu. Eto, pam gwneud hynny rŵan? Yr unig reswm y gallaf i feddwl pam y byddech chi am wneud hynny ydy i helpu gwneud gwasanaethau cyhoeddus ac ati yn gynaliadwy drwy gael pobl sydd yn profi'n bositif i fynd i'r gwaith beth bynnag, achos, cofiwch, fydd yna ddim profion LFT ar gael o ddydd Gwener am ddim, dim prawf, dim prawf positif—dim prawf positif, dim COVID, felly i'r gwaith â chi. O bosib. All y Gweinidog gadarnhau mai dyna ydy'r bwriad? A hyd yn oed os oes rhywun yn profi'n bositif, os dydyn nhw ddim yn sâl, mi fyddan nhw dan bwysau mawr, dwi'n ofni, i fynd i'r gwaith. Dyna pam fod y TUC heddiw wedi dweud eu bod nhw yn siomedig efo'r penderfyniad yma. Mi fydd o'n newid y berthynas rhwng y cyflogwr a'r sawl sy'n cael ei gyflogi. Os mai diogelwch ydy'r flaenoriaeth, fel mae Llywodraeth Cymru wedi ei fynnu drwy gydol y pandemig yma, pam ddim disgwyl ychydig bach i'r don yma fod drosodd? Dydy o ddim yn gwneud synnwyr i fi a dydy o ddim yn gwneud synnwyr i'r nifer uchel o bobl sydd wedi bod yn cysylltu efo fi a, dwi'n amau, efo llawer o Aelodau eraill ers y cyhoeddiad ddydd Gwener ddiwethaf.