13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 6:01, 29 Mawrth 2022

Dwi'n croesawu sylwadau'r Dirprwy Weinidog, wrth gwrs—yn croesawu unrhyw ymgais i gryfhau hawliau pobl sy'n byw mewn fflatiau sy'n anniogel—ond dwi ddim yn derbyn y ddadl, Dirprwy Weinidog, fod defnyddio proses yr LCM yn gynt na chael Deddf ein hunain fan hyn yng Nghymru. Rŷm ni wedi gweld dros y ddwy flynedd diwethaf fod modd i'r lle yma basio Deddfau yn gyflym iawn pan fo angen.