13. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 6:13, 29 Mawrth 2022

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno hwn heddiw. A gaf i ar y dechrau fan yma jest nodi pa mor gwbl annigonol ydy'r broses yma wrth lunio deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig? Dydy'r pwyllgor, er enghraifft, ddim wedi cael amser i graffu yn iawn, heb sôn am y gallu i bobl Cymru fedru cymryd rhan yn y broses hon.

Y rheswm a roddwyd am bam y dylid cefnogi'r LCMs yma i gychwyn oedd oherwydd natur argyfyngus y sefyllfa, fel dŷn ni wedi clywed—roedd yn fater o'r brys mwyaf. Mae yna sawl LCM wedi cael eu cyflwyno ynghylch y mater erbyn hyn, ac mi ydyn ni 10 mis i mewn i'r chweched Senedd a dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw ddeddfwriaeth gynradd yn cael ei chyflwyno eto. Gallai'r Llywodraeth yma fod wedi drafftio ei Bil ei hun i fynd i'r afael â'r problemau dybryd sydd yn wynebu lesddeiliaid a thenantiaid, ond rydyn ni'n dal i aros.

Mae nifer o'r cymalau yn cynnwys pwerau dirprwyedig. Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r rhain, a dim ond un pŵer a roddir i Weinidogion Cymru. Ydych chi'n hapus i drosglwyddo'r grym yma drosodd i'r Ysgrifennydd Gwladol? Yr Ysgrifennydd Gwladol fydd efo'r hawl i sefydlu swyddfa'r ombwdsman newydd, fydd efo'i rymoedd yn ymestyn dros Gymru. Rôl ymgynghorol yn unig fydd gan Lywodraeth Cymru yn hyn. Ydych chi, felly, yn hapus efo trosglwyddo'r grymoedd yma i San Steffan, ac ydych chi'n hapus yn trystio'r Llywodraeth yno i wneud y penderfyniad gorau ar ran pobl Cymru? Ac mi wnaf i nodi'n fan yma fy mod i'n gweld y Ceidwadwyr yn gwrthwynebu cael mwy o wleidyddion i Gymru—rôl gwleidyddion, wrth gwrs, ydy craffu Biliau er mwyn gwneud yn siŵr bod Biliau da yn cael eu gweithredu yng Nghymru—ond dydyn nhw ddim yn gwrthwynebu rôl swyddfeydd newydd, fel ombwdsmyn, sydd yn ffeindio bai ar ôl i bethau fynd o'u lle.

Yn yr un modd, yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig sydd â'r pŵer i gyhoeddi a chymeradwyo cod ymarfer. Rôl ymgynghorol yn unig yw rôl Gweinidogion Cymru cyn i reoliadau o'r fath gael eu gwneud, ac ni fydd gan Weinidogion Cymru unrhyw hawliau eraill—er enghraifft, yr hawl i feto. Ydych chi'n fodlon, felly, y bydd Llywodraeth San Steffan yn gweithredu yn unol â dymuniadau Cymru? Yn olaf yn y mater hwn, bydd darpariaethau'r cynllun Ombwdsman Cartrefi Newydd yn dod i rym ar ddyddiad a bennir mewn rheoliadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Ydych chi'n meddwl bod hyn yn briodol, gan, unwaith eto, y byddwn ni'n gweld llais Cymru yn cael ei wanhau?

O ran y Bil sy'n mynd drwy San Steffan ar hyn o bryd, mae'n rhwystredig gweld y Llywodraeth yma yn fodlon gadael i'r sefydliad llychlyd ar lannau Tafwys ddeddfu ar ein rhan unwaith eto. Ond ydy hyn yn gosod cynsail? Ydy Llywodraeth Cymru'n bwriadu defnyddio Biliau'r Deyrnas Gyfunol er mwyn gwneud newidiadau pellach i ddiogelwch adeiladau yma, ynteu a fydd unrhyw newidiadau pellach yn cael eu cynnwys mewn Bil diogelwch ar lawr y Senedd hon?

Yn olaf, mae nifer o randdeiliaid, pobl sy'n llesddalwyr, wedi bod mewn cyswllt â fi'n ddiweddar yn pryderu'n arw am y costau sylweddol y maen nhw'n eu hwynebu rŵan hyn. Pa sicrwydd y medrwch chi roi i'r bobl yma na fydd yn rhaid iddyn nhw dalu dim mwy na'r hyn maen nhw eisoes wedi'i dalu am waith atgyweirio, boed yn waith allanol neu yn waith mewnol? Diolch.