Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i egluro pam rwyf yn argymell bod y Senedd yn cydsynio i'r darpariaethau yn y Bil Etholiadau.
Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro am yr oedi cyn gosod y memorandwm atodol a achoswyd gan y trafodaethau cymhleth a hirfaith rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar nifer o ddarpariaethau'r Bil. Yr wyf yn difaru am yr oedi a effeithiodd ar yr amser a gafodd y pwyllgorau i archwilio'r darpariaethau diweddaraf.