Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am y pwyntiau defnyddiol a godwyd yn eu hadroddiadau. Byddan nhw'n falch o glywed am ein hymgysylltiad adeiladol â Llywodraeth y DU a'r cynnydd sylweddol a gyflawnwyd.
Cyn i mi roi rhagor o fanylion i'r Aelodau am yr hyn sydd wedi'i gyflawni, a gaf i atgoffa'r Aelodau o ddull Llywodraeth Cymru o ddiwygio etholiadol, a gynhwysir yn yr egwyddorion ar gyfer diwygio etholiadol, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf diwethaf? Maen nhw'n egwyddorion sy'n seiliedig ar werthoedd cyfiawnder cymdeithasol a democratiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, hygyrchedd a symlrwydd. Gresynwn nad yw Llywodraeth y DU yn rhannu ein blaenoriaethau.
Rydym wedi gwneud cynnydd pwysig tuag at gyflawni'r egwyddorion hyn. Y llynedd, gwnaethom etholfreinio pobl ifanc 16 a 17 oed a hefyd dinasyddion tramor cymwys—y bobl hynny sy'n cyfrannu cymaint at ein cymunedau a'n cenedl ac sy'n haeddu cael eu lleisiau wedi'u clywed yng Nghymru, os nad yn Lloegr. Rydym hefyd yn adeiladu ar hyn drwy weithio gydag awdurdodau lleol, partneriaid addysg a'r trydydd sector ar ymgyrch ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth gynhwysfawr cyn etholiadau mis Mai. Roedd diwrnod cofrestru pleidleiswyr yr wythnos diwethaf yn annog pobl ifanc sydd newydd eu hetholfreinio i gofrestru i bleidleisio ac i ddylanwadu ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw. A daeth Gorchmynion i rym yr wythnos diwethaf i alluogi cynlluniau treialu pleidleisio ymlaen llaw ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen, gan roi hyblygrwydd i bobl ynghylch pryd a ble y gallan nhw bleidleisio yn etholiadau mis Mai. Rydym ni'n ddiolchgar i bartneriaid llywodraeth leol am helpu etholiadau yng Nghymru i fod mor hygyrch â phosibl, gan leihau'r diffyg democrataidd.
Nawr, bydd Aelodau'n gwybod, yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol a osodwyd ar 9 Medi 2021, na allwn i argymell cydsyniad i'r Bil. Roedd gennyf bryderon y byddai'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn cael effaith andwyol ar gymhwysedd datganoledig. Fel llawer ohonom ni yn y Siambr hon, nid wyf yn cytuno â'r Bil, ond mae'n bleser gennyf adrodd bod y Bil bellach yn cydnabod pwerau datganoledig yn well. Ac eithrio dau faes sy'n ymwneud â throsedd bygythiadau ac argraffau digidol, mae Cymru i bob pwrpas wedi'i thynnu allan o'r Bil o ran etholiadau datganoledig. Gallaf felly argymell cydsyniad, fel y nodir yn y memorandwm atodol, a osodwyd ar 22 Mawrth.
O ganlyniad i'n trafodaethau, mae Llywodraeth y DU bellach wedi cydnabod ein prif feysydd o bryderon, a nodwyd yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gwreiddiol—pryderon a rennir hefyd gan y pwyllgorau ac a nodwyd yn eu hadroddiadau. Ni fydd cynigion prawf adnabod pleidleiswyr yn berthnasol i etholiadau'r Senedd a'r cyngor. Mae darpariaethau sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i gyfarwyddo'r Comisiwn Etholiadol wrth gyflawni ei swyddogaethau yng Nghymru wedi'u dileu a'u disodli gan welliannau a gyflwynwyd ar 28 Chwefror ac y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi, yn ogystal â chynigion ynghylch dylanwad gormodol, gwariant tybiannol a chyllid gwleidyddol arall. Ceir amlinelliad o'r gwelliannau perthnasol ym mharagraffau 17 i 29 o'r memorandwm atodol.
Mae gwahaniaeth barn o hyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar rai materion sy'n ymwneud ag argraffau digidol a'r drosedd o fygwth. Fodd bynnag, mae'r rhain yn ymwneud â chymhwysedd yn hytrach na bwriad y polisi. Mae'r polisi ar argraffau digidol yn ymwneud â thryloywder etholiadol. Ar gyfer etholiadau datganoledig, mae hyn o fewn cymhwysedd datganoledig ac mae angen cydsyniad y Senedd. Cytunwn ei bod yn bwysig amddiffyn cyfranogwyr yn y broses ddemocrataidd, ac felly nid ydym yn gwrthwynebu mewn egwyddor y darpariaethau ar fygythiadau. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno y dylai pob deddfwrfa fod yn rhydd i benderfynu ar y drefn anghymhwyso ar gyfer etholiadau y mae'n gyfrifol amdanynt.
I ailadrodd, rwyf yn dal i wrthwynebu'r Bil, sydd, yn fy marn i, yn ddiangen ac yn ymwneud yn fwy ag atal pleidleiswyr a galluogi cyllido tramor na gwella democratiaeth ac uniondeb etholiadol. Ond rwy'n fodlon na fydd y newidiadau yr ydym ni wedi'u sicrhau ar gyfer Cymru, yn unol â chonfensiwn Sewel, ac eithrio'r ddau faes o anghytuno ar gymhwysedd—. Rydym yn fodlon na fydd prif elfennau'r Bil bellach yn effeithio ar faterion sydd o fewn cymhwysedd y Senedd. Rwyf yn dal yn gadarn o'r farn ein bod yn rhydd i ystyried y materion hyn ymhellach mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid yng Nghymru, a bwriadwn edrych arnyn nhw eto pan symudwn ymlaen gyda'n deddfwriaeth diwygio etholiadol ein hunain. Rwyf bellach yn fodlon y gall y Senedd roi ei chydsyniad i'r Bil. Diolch yn fawr, Llywydd.