2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 29 Mawrth 2022.
Galwaf nawr ar arweinwyr y pleidiau. Yn gyntaf, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yr hyn yr wyf i'n ei gofio fel cynnydd pitw oedd y 75c yr wythnos y pleidleisiodd Llafur drwyddo ac y pleidleisiodd Aelodau Seneddol o'i blaid yn ôl ar ddechrau'r 2000au pan oedd Gordon Brown yn Ganghellor y Trysorlys.
Ond hoffwn i ofyn i'r Prif Weinidog am rywbeth y mae ef yn gyfrifol amdano ac y mae ei Lywodraeth yn gyfrifol amdano, sef amseroedd ymateb ambiwlansys yma yng Nghymru, a gawsom ni yr wythnos diwethaf. O ran y galwadau rhybudd coch, roedd gennych chi, yn llythrennol, un mewn dau o siawns o gael ymateb i'r alwad honno. O ran galwadau oren, mae gennych chi llai nag un mewn pump o siawns y bydd ymateb iddyn nhw yn yr amser targed o 30 munud. Dylai chwe deg pump y cant o alwadau coch daro'r amser ymateb wyth munud hwnnw. Fel y dywedais, mae gennych chi siawns o 50:50 bellach y bydd hynny'n digwydd yng Nghymru, yn anffodus. Prif Weinidog, beth amser yn ôl, dywedodd y Gweinidog iechyd, Eluned Morgan, eich bod chi'n buddsoddi yn y gwasanaeth ambiwlans a bod y buddsoddiad hwn yn talu ar ei ganfed. O ran y ffigurau hynny, yn amlwg, nid yw'r manteision hynny yn dod i'r amlwg. Pryd ydym ni'n mynd i weld y gwelliannau y mae pobl Cymru yn eu haeddu?
Am 48 wythnos yn olynol, tan i'r pandemig ein taro ni ym mis Mawrth 2020, fe gyrhaeddodd y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru ei dargedau. Nid wyf i'n cofio cael fy holi unwaith gan arweinydd yr wrthblaid amdano bryd hynny. Y gwir amdani yw, fel y bydd yn gwybod, bod y pandemig wedi achosi heriau mawr i'r gwasanaeth ambiwlans, oherwydd bob tro y bydd ambiwlans yn mynd allan a gall gludo rhywun sydd â COVID—a gyda'r cyfraddau COVID presennol yng Nghymru, mae hynny yn golygu nifer sylweddol iawn o bobl y mae'n rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans ymdrin â nhw—yna mae'n rhaid glanhau'r ambiwlans yn ddwys eto cyn y gall fynd yn ôl ar y ffordd.
Mae'r ffigurau ar gyfer y mis diwethaf yn dangos bod y gwasanaeth ambiwlans yn dal ei dir yng Nghymru, er gwaethaf y ffaith bod nifer y galwadau i'r gwasanaeth wedi bod ar ei uchaf erioed dros y gaeaf hwn. Roedd y Gweinidog yn iawn pan gyfeiriodd at y buddsoddiad sy'n mynd i'r gwasanaeth ambiwlans, yn enwedig o ran recriwtio staff newydd. Mae staff newydd yn ymuno â'r gwasanaeth ambiwlans drwy'r amser, ac mae mwy o staff yn cael eu recriwtio i helpu i ddarparu'r gwasanaeth y mae pobl yng Nghymru yn haeddu ei gael. Mae cryn dipyn i'w wneud o hyd i gyflawni hynny, nid oes amheuaeth o gwbl am hynny, ond mae'r buddsoddiad ar y naill law, y staff ar y llaw arall, a, gobeithio, gallu i symud y tu hwnt i'r pandemig, yn llunio prosbectws lle bydd y gwasanaeth ambiwlans yn gallu dychwelyd i'r blynyddoedd o lwyddiant a fwynhawyd ganddo cyn i'r pandemig daro.
Prif Weinidog, mae 18 mis wedi mynd heibio ers i'r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd y targedau. Dro ar ôl tro, rwyf i wedi ei godi gyda chi, mae Aelodau ar draws y rhaniad gwleidyddol wedi codi materion—materion torcalonnus—o'u profiadau ym mhob rhan o Gymru, lle nad yw ambiwlansys, yn anffodus, wedi gallu ymateb i sefyllfaoedd sy'n bygwth bywyd. Rydym ni'n gwybod bod y gwasanaeth ambiwlans wedi cael cefnogaeth gan y fyddin ar sawl achlysur—ledled y Deyrnas Unedig mae'r cymorth hwnnw wedi ei gynnig, dylwn ychwanegu, nid yma yng Nghymru yn unig. Mae'r cymorth hwnnw yn dod i ben ar 31 Mawrth. Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r gwasanaeth ambiwlans, wedi eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr na fyddwn ar y dibyn ar 31 Mawrth ac, yn y pen draw, na fydd ffigurau hyn yn dirywio hyd yn oed yn waeth nag y maen nhw ar hyn o bryd?
Wel, Dirprwy Lywydd, a gaf i gofnodi yn gyntaf ein diolch i'r fyddin am y cymorth yr ydym ni wedi ei gael yma yng Nghymru yn ystod y pandemig, ac yn enwedig, fel y dywedodd arweinydd yr wrthblaid, am y cymorth yr ydym ni wedi ei gael ganddyn nhw i gefnogi ein gwasanaethau ambiwlans, o ran gyrru ambiwlansys ac o ran helpu i lanhau ambiwlansys fel y gellir eu hailddefnyddio cyn gynted ag y gallwn ni wneud hynny a'u rhoi nhw yn ôl ar y ffordd eto? Mae'n anochel bod yn rhaid i'r cymorth hwnnw ddod i ben, a cheir llawer o ofynion eraill, fel yr ydym ni'n gwybod, ar wasanaethau'r lluoedd arfog ar hyn o bryd.
Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud, fel yr wyf i wedi ei ddweud, Dirprwy Lywydd, yw buddsoddi mewn aelodau staff newydd, parhaol, llawnamser, sydd wedi eu hyfforddi i'r lefel lle gallan nhw gyflawni'r holl ddyletswyddau y byddech chi'n disgwyl i'r gwasanaeth ambiwlans allu eu cyflawni. Ac ar yr un pryd, yn fwy cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi'r gwasanaeth ambiwlans mewn cyfnod o bythefnos i ailosod y gwasanaeth yn ystod hanner cyntaf y mis hwn. Nawr, mae canlyniadau'r ailosod hwnnw yn dal i gael eu dadansoddi. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni, dros y pythefnos diwethaf, wedi gweld gostyngiad o 10 y cant i'r oriau ambiwlans cyfartalog dyddiol a gollwyd o'i gymharu â'r pythefnos cyn sefydlu'r ailosod. Ac rwy'n credu bod hynny yn rhoi rhywfaint o optimistiaeth i ni ein bod ni'n creu'r llwyfan a fydd yn caniatáu i'r gwasanaeth ambiwlans ymdrin â'r gostyngiad i nifer y bobl sydd ar gael iddo wrth i gymorth milwrol gael ei dynnu yn ôl.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y clywsom yr wythnos diwethaf mewn adroddiadau yn y cyfryngau, mae gweithwyr ambiwlans yn dweud wrthym ei fod, mewn gwirionedd, yn waith anobeithiol y maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd, ac mae llawer, yn anffodus, yn gorfod troi at gyffuriau gwrth-iselder i'w cael drwy'r dydd. O recordiadau cudd, clywsom, mewn gwirionedd, o lefel reoli, pan fo pryderon gwirioneddol yn cael eu codi, fod pobl yn cael eu rhoi ar lwybrau camau disgyblu yn eu herbyn. Ni all hynny fod yn iawn, Prif Weinidog, ac rwy'n gobeithio y gwnewch chi gytuno â mi na ellir goddef hynny mewn sefydliad cyhoeddus yn unman yng Nghymru. Mae'r staff hyn o dan bwysau enfawr. Rwy'n ddiolchgar i chi am nodi'r staff ychwanegol sy'n dod ymlaen o ymgyrchoedd recriwtio diweddar, ond pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Senedd, pa sicrwydd allwch chi ei roi i weithwyr ambiwlans a pha sicrwydd allwch chi ei roi i bobl Cymru y byddwn ni'n gweld gwelliant gwirioneddol i amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans ledled Cymru yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf ac y bydd y ffigurau hyn yn dechrau gwella, a thrwy'r haf, y bydd yr amseroedd targed y mae eich Llywodraeth eich hun wedi eu pennu i'r gwasanaeth yn cael eu bodloni?
Wel, y sicrwydd y gallaf i ei roi i Aelodau'r Senedd a phobl yn fwy cyffredinol yw hyn: mae'r ymddiriedolaeth ambiwlans yn gwneud popeth o fewn ei gallu, gyda'i phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd yn fwy cyffredinol, i ddarparu'r gwasanaeth y mae ei staff yn awyddus i'w ddarparu, ac mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yno i'w cynorthwyo yn yr ymdrech honno.
Y peth na allaf ei ddweud, ac na all arweinydd yr wrthblaid ei ddweud chwaith, yw i ba raddau y bydd y cynnydd presennol i nifer y bobl sy'n mynd yn sâl gyda'r coronafeirws yn effeithio ar y gwasanaeth hwnnw dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Bydd arweinydd yr wrthblaid yn gwybod bod gennym ni rai o'r niferoedd uchaf o bobl yn mynd yn sâl gyda'r feirws ar unrhyw adeg yn y pandemig cyfan. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaethom ni lwyddo i leihau nifer y bobl yn ein gwelyau ysbyty a oedd yn dioddef o'r coronafeirws i lawr i tua 700. Aeth uwchben 1,400 ddoe, ac mae'r nifer hwnnw wedi parhau i godi. Mae hynny yn effeithio ar allu'r system gyfan i ymdrin â'r gofynion arni, gan gynnwys y gwasanaeth ambiwlans. Oherwydd pan fydd gennych chi'r nifer hwnnw o bobl yn y system ysbytai yn dioddef o COVID-19, yna mae'n cael effaith ar ein gallu i ryddhau pobl, ac felly i lifo cleifion drwy'r system o'r drws ffrynt pan fydd yr ambiwlans yn cyrraedd i'r pwynt lle gall pobl gael eu rhyddhau. Hefyd, fel y dywedais, mae'n cael effaith uniongyrchol ar ba mor gyflym y gall y gwasanaeth ambiwlans ei hun ymateb i'r galwadau y mae'n eu cael, ac mae'n cynyddu nifer y galwadau sy'n cael eu gwneud. Felly, er fy mod i'n credu bod y gwasanaeth yn gwneud popeth o fewn ei allu, a bod y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yno i'w gynorthwyo yn hynny i gyd, mae'n parhau i weithredu o fewn cyd-destun heriol iawn, a chyd-destun sydd wedi bod yn dirywio, o safbwynt pandemig, dros yr wythnosau diwethaf. Mae'n rhaid ystyried hynny i gyd mewn unrhyw sicrwydd y gall unrhyw un ei roi ynghylch i ba raddau y bydd perfformiad yr ambiwlans yn adlewyrchu'r cyd-destun hwnnw yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn 2016, cafodd yr Alban reolaeth dros 11 o fudd-daliadau lles a'r gallu i greu rhai newydd. Cyhoeddodd Canolfan Llywodraethiant Cymru adroddiad yn 2019 a oedd yn nodi y gallai rhoi'r un pwerau dros fudd-daliadau i Gymru ag sydd gan yr Alban roi hwb o £200 miliwn y flwyddyn i gyllideb Cymru. Nawr, roedd datganiad y gwanwyn yr wythnos diwethaf, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, yn anfaddeuol—bydd yn arwain at filiwn a mwy o gynnydd o ran tlodi llwyr am y tro cyntaf erioed y tu allan i ddirwasgiad. Nawr, yn dod gan Ganghellor y mae ei ffortiwn deuluol ei hun wedi ei phardduo gan arian gwaed Rwsia, ac sydd wedi gorfod llenwi ei holiadur ei hun am y sgandal partïon, ni ddylai ei dôn-fyddardod foesol fod yn syndod, efallai. Ond onid yw hyn hefyd yn golygu na fydd disodli Johnson, dyweder gyda Sunak, yn gwneud dim i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yng Nghymru? Os bydd pwerau dros les Cymru—yr 'ysgogiadau mawr' hynny y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, Prif Weinidog—yn aros yn nwylo San Steffan, onid dyma'r amser yn awr, o'r diwedd, i gyflwyno'r ddadl unedig dros ddatganoli lles i Gymru mewn ffordd fwy radical a phellgyrhaeddol na model yr Alban hyd yn oed?
Dirprwy Lywydd, nid oes gen i unrhyw uchelgais i ddisodli Johnson gyda Sunak. Fy uchelgais i yw disodli Johnson gyda Starmer, a byddai hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn i'r ffordd y mae'r Deyrnas Unedig yn gweithredu a'r ffordd y mae pobl sy'n dibynnu ar—[Anghlywadwy.]—nid yn unig—[Anghlywadwy.]—yn y bôn—[Anghlywadwy.]
Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi oedi am eiliad, oherwydd eich bod chi'n torri i fyny rhywfaint? Rydym ni eisiau gwirio'r system TG. A gawn ni seibiant o ddau funud, dim ond i wneud yn siŵr bod y TG yn gweithio yn iawn? Felly, galwaf am egwyl o ddau funud.
Prif Weinidog.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Felly, roeddwn i newydd ddechrau ymateb i gwestiwn cyntaf arweinydd Plaid Cymru drwy ddweud nad oes gen i ddiddordeb mewn disodli Boris Johnson gyda Sunak, mae gen i ddiddordeb mewn disodli Boris Johnson gyda Keir Starmer, a dyna fyddai'n gwneud gwahaniaeth i bobl yma yng Nghymru, ond nid dim ond pobl yma yng Nghymru. Dyma le mae gen i farn wahanol i arweinydd Plaid Cymru, oherwydd bod gen i ddiddordeb mewn plentyn sy'n byw mewn tlodi, pa un a yw'r plentyn hwnnw yng Nghymru neu yn Lloegr, a fy rysáit i ar gyfer y Deyrnas Unedig yw lle y gall pawb, ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, elwa ar y polisi yswiriant mawr y mae bod yn aelod o'r Deyrnas Unedig yn ei gynnig. Mae ffordd o wneud hynny, sef disodli'r Llywodraeth hon, a dyna y byddaf i'n ceisio ei wneud.
Mae'r Dirprwy Lywydd wedi fy hysbysu yn ddibynadwy mai ar ben Llundain yr oedd y broblem yn awr, ac onid dyna'r pwynt? Nid yw'n ddigon da dweud, 'O, bydd popeth yn iawn pan fydd Llywodraeth Lafur', pan nad yw Cymru erioed, ers y Ddeddf Ddiwygio, erioed wedi ethol mwyafrif o ASau Torïaidd, ac eto bu gennym ni Lywodraethau Torïaidd am fwy na dwy ran o dair o'r amser. Mae Sefydliad Bevan wedi dadlau'n gryf yn ddiweddar dros ddatganoli grym dros fudd-dal tai a'r elfen dai o gredyd tai fel mater o frys. Pam? Oherwydd y byddai hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru symud o fodel sydd yn ei hanfod yn rhoi cymhorthdal rhent i fodel sy'n rhoi cymhorthdal i'r cyflenwad tai cymdeithasol, sef yr unig ateb i'r cwestiwn yn y pen draw. Pan fydd hyd yn oed sefydliad sydd wedi ei enwi ar ôl Aneurin Bevan, yn sicr nad oedd yn gyfaill i genedlaetholdeb Cymreig, yn dadlau'r achos dros ddatganoli lles, onid yw'n dangos, Prif Weinidog, ein bod ni ar ochr iawn y cwestiwn, ac, yn anffodus, eich bod chi yn dal ar yr ochr anghywir?
Wel, wrth gwrs, nid wyf i'n cytuno â hynny am eiliad. Mae gen i ddiddordeb ac rwy'n awyddus i waith difrifol gael ei wneud ar ddatganoli gweinyddiaeth y system les. Rwy'n credu bod achos cynyddol dros hynny, a byddem ni'n gweinyddu budd-dal tai, er enghraifft, yn wahanol pe bai'n cael ei ddatganoli i Gymru. Mae hynny yn wahanol i chwalu'r system dreth a budd-daliadau y mae pobl yng Nghymru wedi dibynnu arni dros lawer iawn o'r amser y mae'r Aelod yn cyfeirio ato.
Cymro—nid Aneurin Bevan, ond James Griffiths—a roddodd ar y llyfr statud sylfeini'r wladwriaeth les, sydd wedi gwneud llawer o ddaioni i bobl yng Nghymru yn ystod llawer o'r cyfnod ers i James Griffiths basio'r Deddfau yswiriant gwladol a chysylltiedig yn ôl ym 1947. Roedd Griffiths yn Gymro gwych, ac yn sosialydd mawr. Rwy'n credu mai'r rysáit a gynigiwyd ganddo ef yw'r un sydd o fudd i bobl yng Nghymru o hyd.
Ac roedd Jim Griffiths, o bentref genedigol fy mam, Betws, hefyd yn gefnogwr brwd o reolaeth gartref i Gymru drwy gydol ei fywyd gwleidyddol.
Gall Llywodraeth Cymru hefyd fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r argyfwng costau byw ei hun, wrth gwrs, ar gyfer gweithwyr ar gyflogau is yn y sector cyhoeddus. Ar hyn o bryd dim ond am 39 i 43 wythnos o'r flwyddyn y mae cynorthwywyr addysgu yn cael eu talu. Nid ydyn nhw'n cael eu talu yn ystod chwe wythnos yr haf, ond maen nhw'n rhwym i'r ysgol ac ni allan nhw gael swydd arall yn ystod y cyfnod hwn, tra bod athrawon, wrth gwrs, yn cael eu talu am flwyddyn waith lawn o 52 wythnos. Mae misoedd yr haf ymysg y rhai drutaf, heb sôn am yr effaith niweidiol y gall y diffyg cyflog hwn ei chael ar bensiynau yn ddiweddarach mewn bywyd. O ystyried bod llawer o'r ymdrechion i adfer yn sgil COVID wedi eu rhoi ar ysgwyddau cynorthwywyr addysgu, a'r gwaith hanfodol y maen nhw'n ei ddarparu ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed neu'r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, onid yw'n bryd i'r gweithlu gwerthfawr hwn gael ei werthfawrogi yn llawn o'r diwedd?
Wel, Llywydd, rwy'n sicr yn cytuno ag arweinydd Plaid Cymru ynghylch gwaith cynorthwywyr addysgu. Ac mae llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn cael eu talu yn ystod gwyliau'r ysgol yma yng Nghymru gan mai nhw yw sylfaen y rhaglen gyfoethogi gwyliau ysgol a fu gennym ni yng Nghymru o ddechrau tymor diwethaf y Senedd—yr unig system genedlaethol yn unman yn y Deyrnas Unedig lle gall plant fynychu'r ysgol a chael pryd bwyd iawn a chael gweithgareddau cyfoethogi eraill. Ac mae cynorthwywyr addysgu wrth wraidd hynny i gyd, ac maen nhw'n cael eu talu yma yng Nghymru am y gwaith y maen nhw'n ei wneud.
Nid oes dim i atal awdurdodau lleol, os byddan nhw'n dewis gwneud hynny, rhag cael gwahanol delerau ac amodau ar gyfer cynorthwywyr addysgu, a byddai hynny, wrth gwrs, yn cynnwys yr awdurdodau lleol hynny lle mae Plaid Cymru wrth y llyw, ac a allai, mae'n siŵr, wneud y dewisiadau y mae'r Aelod wedi eu hyrwyddo y prynhawn yma.