2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2022.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith COVID ar wasanaethau mamolaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57865
Wel, diolch yn fawr, Llywydd, i'r Aelod am y cwestiwn.
Roedd gwasanaethau mamolaeth ledled Cymru yn cael eu hystyried yn wasanaethau hanfodol drwy gydol y pandemig, gan gynnwys y rhai yng ngorllewin y de. Er gwaethaf heriau sylweddol oherwydd COVID, mae bron pob un o'n gwasanaethau wedi parhau i weithredu'n llawn, gan roi gofal mamolaeth diogel ac addas i famau beichiog, babanod a'u teuluoedd.
Diolch, Prif Weinidog. Yn ddiweddar, cysylltodd un o fy etholwyr o gwm Tawe, o'r enw Laura, â mi ynglŷn â'i phrofiad ofnadwy o orfod cael sganiau beichiogrwydd ar ei phen ei hun heb ei gŵr oherwydd rheolau COVID. Ers i gyfyngiadau a mesurau COVID ddod i rym ddwy flynedd yn ôl, mae hi wedi cael tri chamesgoriad yn olynol yn anffodus. Dywedwyd bod dau o'r rhain yn 'gamesgoriadau a fethwyd' ac roedd angen nifer o sganiau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot i ganfod hyfywedd y beichiogrwydd—y cyntaf ym mis Medi 2020, yr ail ym mis Awst 2021. Meddai:
'Yn ystod y ddau gyfnod hynod boenus ac anodd hyn, nid oeddwn i, fel llawer o ddarpar famau eraill yng Nghymru, yn cael bod â fy ngŵr gyda mi yn y sganiau, a bu'n rhaid i mi gael clywed ar y ddau achlysur nad oedd y ffetws yn hyfyw ac y byddwn i'n colli'r beichiogrwydd ar fy mhen fy hun heb neb yno i roi cysur na chefnogaeth. Yn hytrach, cefais fy arwain i ystafell aros fach, gan ddweud y gallwn i adael pan oeddwn i'n barod. Yna bu'n rhaid i mi fynd allan a rhannu'r newyddion â fy ngŵr fy hun, wrth iddo aros yn bryderus allan yn y maes parcio.'
Yr wythnos diwethaf, bu'n rhaid iddi wynebu'r un profiad ofnadwy. Diolch byth, roedd yn newyddion da. Er fy mod i'n deall, wrth gwrs, y bu'n rhaid i ysbytai gyflwyno a chynnal rheolau llym i ddiogelu rhag haint COVID, ceir mater sylfaenol o anghysondeb o ran dull yma. Mae Laura yn dweud wrthyf fod menywod beichiog, erbyn y llynedd, yn cael bod â phartner yn bresennol yn ystod rhai sganiau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn wir ar gyfer y math o sganiau yr oedd eu hangen arni hi—sganiau sy'n cael eu caniatáu yn y GIG dim ond pan fydd problemau neu risgiau posibl. Prif Weinidog, wrth i Gymru ddechrau ar gyfnod newydd yn y pandemig, a wnaiff y Llywodraeth sicrhau gwell triniaeth i'r holl fenywod eraill ledled Cymru sydd wedi dioddef ac y bydd y sefyllfa hon yn effeithio arnyn nhw a allai fod yn drawmatig, drwy edrych ar y canllawiau a gyflwynwyd i fyrddau iechyd a sicrhau dull cyson a phriodol o ymdrin â gwasanaethau mamolaeth?
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n teimlo cydymdeimlad enfawr tuag at yr unigolyn y rhannodd ei hamgylchiadau. Yn ystod y pandemig cyfan, mae rhai o'r amgylchiadau mwyaf anodd y bu'n rhaid i'r GIG eu hwynebu wedi ymwneud â gofal mamolaeth a chyfranogiad y ddau bartner yn yr hyn a ddylai, o dan amgylchiadau arferol, fod yn un o'r adegau mwyaf cyffrous yn eu bywydau. Ond, fel yr wyf i wedi ei esbonio droeon ar lawr y Senedd, bu'n rhaid i'r penderfyniad ynghylch a all pobl gymryd rhan fod yn benderfyniad clinigol, wedi ei wneud gan y sawl sydd â'r cyfle gorau i wneud yn siŵr y gellir diogelu iechyd y fam ac iechyd y baban heb ei eni i'r graddau mwyaf posibl. Ac mae hynny yn dibynnu ar iechyd y fam, er enghraifft, ei gwendidau, cyflyrau iechyd sylfaenol ac yn y blaen, yn ogystal â'r amgylchiadau sy'n bodoli ym mha safle bynnag y mae'r gofal hwnnw yn cael ei ddarparu. Ac nid yw wedi bod yn iawn yn ystod y pandemig hyd yma i fod wedi ceisio cyhoeddi cyfres o reolau o Barc Cathays a fyddai'n diystyru'r dyfarniad clinigol angenrheidiol mai dim ond y sawl sy'n gyfrifol am ofal cyffredinol y fam a'r plentyn heb ei eni allai ei wneud.
Wrth i ni adael, fel yr ydym yn gobeithio, effeithiau gwaethaf y pandemig, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i'r GIG yn ei gyfanrwydd. Bydd, er enghraifft, yn ceisio safoni hyd yr ymweliadau y gall teuluoedd eu gwneud tra bo rhywun yn yr ysbyty, i wneud yn siŵr bod y dull o gynnal profion llif unffordd yn gyson ledled Cymru, a bod yr amgylchiadau lle gall y ddau riant gymryd rhan, ac wrth gwrs eisiau cymryd rhan, yn yr holl brofiad hwnnw hefyd yn gyson o un rhan o'r GIG i'r llall. Gallwn wneud hynny oherwydd bod effaith brechu, triniaethau newydd sydd gennym ni, y ffordd y mae'r GIG wedi dysgu i ymdrin ag effaith COVID-19, yn ein galluogi yn awr i symud i'r cyfnod hwnnw o ddarparu gofal mamolaeth. Ond, yn nyfnderoedd y pandemig, y farn a gymerwyd gan y rhai sy'n ein cynghori yn Llywodraeth Cymru oedd bod yn rhaid i'r math hwnnw o ddull cenedlaethol ildio i'r angen i ganiatáu i glinigwyr wneud y dyfarniad mai dim nhw sy'n gallu ei wneud, er mwyn diogelu iechyd mamau a phlant heb eu geni.
Diolch, Sioned Williams, am godi'r mater pwysig hwn. Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn ystod anterth y pandemig, gwelsom gyfyngiadau enfawr yn cael eu gosod ar famau newydd a'u teuluoedd, nad oedden nhw'n cael ymweld â nhw yn yr ysbyty. Mae'r elusen a'r grŵp ymgyrchu Birthrights wedi monitro'r effaith ar draws y DU i fynegi'r heriau y mae llawer wedi eu hwynebu. Mae'n debyg eu bod nhw wedi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn gofyn am newid, gan ddweud bod gan Gymru
'rai o'r trefniadau ymweld mwyaf cyfyngol mewn gwasanaethau mamolaeth yn y DU.'
A yw'r Prif Weinidog yn credu y dylid ystyried yr effaith ar deuluoedd ar adeg mor bwysig yng nghyd-destun hawliau dynol, ac a gafodd yr hawliau hynny eu parchu? Diolch.
Wel, nid oes mwy o hawl, Llywydd, mae'n ymddangos i mi, na sicrhau nad yw'r system yn eich rhoi mewn perygl ac yn achosi niwed i chi, ac o ran yr hyn y mae rhai pobl yn ei ddisgrifio fel cyfyngiadau, yn fy marn i, mae'n decach eu disgrifio fel amddiffyniadau, oherwydd dyna yr oeddem ni'n ei gynnig yma yng Nghymru. Nid yw hynny, am funud, yn gwadu'r torcalon y mae hynny wedi'i achosi i bobl. Ond yr unig gymhelliad erioed ar gyfer y ffordd y darperir gwasanaethau fu gwneud yn siŵr nad oedd y teuluoedd hynny y cyfeiriodd Altaf Hussain atyn nhw, yn cael eu rhoi mewn perygl yn ddiangen. Rydym wedi bod yng nghanol pandemig byd-eang sydd wedi lladd pobl yma yng Nghymru bob un wythnos, ac unig fwriad y camau y mae ein clinigwyr wedi'u cymryd ac y mae ein byrddau iechyd wedi'u cymryd erioed fu sicrhau nad yw pobl sy'n mynd drwy rywbeth a fydd yn rhan o'u bywydau am byth, fel y byddan nhw'n gobeithio, yn gweld effaith andwyol ar hynny oherwydd na ddarparwyd yr amddiffyniadau y gellid bod wedi'u darparu iddyn nhw. Ac er mor anodd y bu hynny, nid wyf i'n credu am funud y dylem ni wneud unrhyw beth heblaw cydnabod mai'r rhesymau pam y cymerwyd y camau hynny oedd amddiffyn y teuluoedd hynny, amddiffyn y menywod hynny, amddiffyn y babanod yr oedden nhw'n gobeithio rhoi genedigaeth iddyn nhw, ac, wrth i ni symud y tu hwnt i'r pandemig, byddwn yn gallu dychwelyd at wahanol ffyrdd a ffyrdd gwell, wrth gwrs, o wneud pethau. Ond dyna'r rheswm pam y cymerwyd y camau hynny a dim byd arall.