Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 29 Mawrth 2022.
Mae'n drueni mawr bod rhai Aelodau yn y Siambr hon yn chwarae gwleidyddiaeth gyda'r mater yma. Ac er mwyn i'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy glywed, ac Aelodau eraill, mae ymddygiad P&O Ferries yn sgandal ac yn hollol annerbyniol, ac rydyn ni fel grŵp fan hyn wedi gwneud hynny yn hollol glir. Nawr, o ystyried y sefyllfa ddifrifol yma, ac o ystyried ei bod hi'n ymddangos bod prif weithredwr y cwmni hwn wedi cyfaddef iddo fe dorri'r gyfraith, ai eich barn chi felly fyddai y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig fynd â'r mater hwn nawr i'r llysoedd i'w erlyn ef a'r cwmni?