Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 29 Mawrth 2022.
Wel, wrth gwrs. Wrth gwrs, mae diddordeb yn y pwnc yma yng Nghymru, ac mae cyfrifoldeb ar Weinidogion yn San Steffan i fynd i'r llysoedd ac i fynd ar ôl y cwmni sydd wedi torri'r gyfraith. Ond, yn fwy na hynny, Dirprwy Lywydd, rydyn ni'n gwybod bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i ddelio â'r cwmni sy'n rhedeg P&O yn y rhaglen free ports sydd gyda nhw. Dydy hi ddim yn dderbyniol i ni i fynd ar ôl P&O pan maen nhw'n dal i weithio gyda'r cwmni sydd y tu ôl i P&O. Mae lot mwy—mae lot mwy—i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud, ac nid yw hynny'n chwarae gwleidyddiaeth o gwbl; mae jest yn bod yn glir am ble mae'r cyfrifoldeb yn aros.