Part of 2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 29 Mawrth 2022.
Mae hwn yn fater y gwn fod llawer wedi'i godi gyda nhw ar draws y Siambr. Mae llawer wedi gweld pris olew gwresogi yn dyblu mewn llai na chwe mis. Yn gynharach y mis hwn, dywedodd Gweinidog Gwladol Ceidwadol y DU dros Ynni, Twf Glân a Newid Hinsawdd, Greg Hands, fod Llywodraeth y DU yn credu mai'r farchnad agored ar gyfer cyflenwi olew gwresogi yn y DU yw'r warant hirdymor orau o brisiau cystadleuol. Aeth ymlaen i ddweud nad oes angen cap ar brisiau. Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi fod yr ymateb hwn, ar wahân i fod yn esgeulus, yn dangos cyn lleied y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddeall am yr argyfwng y mae pobl yn ei wynebu? Diolch yn fawr iawn.