Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch. Ym mis Chwefror 2021 cyhoeddais 'Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru: Crynodeb o'r Canfyddiadau'. Ochr yn ochr â diwygiadau i'r dreth gyngor, archwiliodd yr adroddiad cynhwysfawr hwn sut y gellid gwella'r system ardrethi annomestig, ystyriodd newidiadau i'r dreth bresennol ac edrychodd ar y posibilrwydd o newid mwy sylfaenol tuag at dreth gwerth tir.
Mae ardrethi annomestig wedi bod yn rhan bwysig o system gyllid llywodraeth leol ers dros 30 mlynedd. Mae sicrhau bod refeniw hanfodol yn cael ei gasglu i ariannu'r gwasanaethau lleol yr ydym ni i gyd yn eu defnyddio a sicrhau cyfraniad teg a chynaliadwy gan fusnesau wedi bod yn gydbwysedd heriol i'w gyflawni erioed. Mae hon yn sefyllfa sy'n esblygu'n gyson ac mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen i adolygu ac addasu polisi trethiant lleol i ymateb i heriau sy'n bodoli eisoes ac sy'n dod i'r amlwg.
Ar 7 Rhagfyr cyhoeddais ein cynlluniau ar gyfer diwygio'r dreth gyngor yn sylweddol. Heddiw, rwy'n cyhoeddi rhaglen o ddiwygio ardrethi annomestig a fydd yn cael ei chyflawni dros y pedair blynedd nesaf. Mae ein rhaglen lywodraethu yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru decach, wyrddach a chryfach. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i unrhyw newidiadau posibl i'r system ardrethi annomestig.
Agwedd hollbwysig ar drethiant lleol yng Nghymru yw'r rhan y mae llywodraeth leol yn ei chwarae. Mae eu profiad a'u hymroddiad yn rhan annatod o gasglu a gweinyddu trethi lleol yn effeithiol. Mae ymrwymiad anhygoel awdurdodau lleol cyn a thrwy gydol pandemig COVID wedi bod yn ganolog i ddarparu rhyddhad ardrethi, grantiau busnes a chymorth treth gyngor. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth agos â llywodraeth leol i ddiwygio'r system ardrethi, gan ddefnyddio eu harbenigedd helaeth a'u gwybodaeth leol.
Byddwn hefyd yn parhau i archwilio cyfleoedd i ddiwygio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru. Mae datganoli yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff prisio hyn weithredu mewn ffyrdd newydd ac arloesol, gan gyflawni swyddogaethau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer anghenion Cymru. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gweithredu ledled Cymru a Lloegr, ac mae'n hanfodol bwysig bod swyddogaethau prisio yn esblygu yn unol â nodau polisi treth lleol Llywodraeth Cymru. Mae gwaith ar y gweill gyda'r asiantaeth a'r tribiwnlys i archwilio a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio i Gymru.
Un maes newid pwysig yw'r cylch ailbrisio. Rydym wedi gwrando ar alwadau gan randdeiliaid am ailbrisiadau amlach, gan sicrhau bod y sylfaen drethi yn adlewyrchu'r amodau economaidd a'r amgylchedd y mae busnesau'n gweithredu ynddyn nhw. Rydym yn parhau i archwilio pa mor aml y dylid ac y gellid darparu ailbrisiadau'n ymarferol ar gyfer Cymru, gan fanteisio ar gyfleoedd a gyflwynir gan sylfaen drethi unigryw Cymru.
Mae eiddo annomestig ledled Cymru yn cael ei ailasesu ar hyn o bryd ar gyfer y broses ailbrisio sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2023, a bydd yn adlewyrchu effaith y pandemig ar ein sylfaen drethi. Ein nod yw cyflwyno deddfwriaeth i symud tuag at gylch ailbrisio tair blynedd, yn unol â rhannau eraill o'r DU, ac rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer cylchoedd ailbrisio byrrach. Mae hyn yn cynnwys archwilio'r posibilrwydd o leihau'r bwlch rhwng y dyddiad prisio a'r dyddiad y mae'r rhestr ardrethu newydd yn dod i rym.
Un o'r gofynion allweddol ar gyfer ailbrisiadau amlach fydd yr angen i adolygu'r broses apelio yng Nghymru a'i diwygio ymhellach o bosibl. Byddwn yn cymryd camau cychwynnol i wella'r broses apelio bresennol ar gyfer mis Ebrill 2023, a bydd diwygiadau pellach i gefnogi cylchoedd ailbrisio amlach yn y dyfodol.
Rydym wedi cymryd camau breision o ran rhannu data a gallu dadansoddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn wedi rhoi dealltwriaeth fanwl o sut y mae'r system ardrethi'n gweithredu, ac mae wedi bod yn hollbwysig wrth feddu ar yr wybodaeth briodol i wneud penderfyniadau polisi mewn tirwedd economaidd sy'n newid yn gyflym. Rydym yn datblygu ein seilwaith data ymhellach fel rhan o'n hagenda ddiwygio. Bydd hyn yn ein helpu ni a'n partneriaid i gyflawni gwelliannau eang o ran targedu cymorth a darparu gwasanaethau digidol i drethdalwyr.
Byddwn yn cynnal adolygiad o'n cynlluniau rhyddhad ardrethi. Mae rhyddhad ardrethi wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi busnesau drwy gydol y pandemig ac mae lefel gyffredinol y rhyddhad a roddir i drethdalwyr wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond nawr yw'r amser i gamu yn ôl ac adolygu ein holl gynlluniau presennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben ac yn darparu cymorth yn y ffordd fwyaf effeithiol. Bydd ein hadolygiad yn ystyried yr ystod o gynlluniau rhyddhad, lefel y cymorth, sut y caiff rhyddhad ardrethi ei dargedu a pha mor hir y mae'n para.
Yn ystod pumed tymor y Senedd, gwnaethom ddatblygiadau o ran mynd i'r afael â thwyll ac osgoi yn y system drethu leol. Gwnaethom ddiwygio rhyddhad ar eiddo gwag i leihau'r posibilrwydd o gylchoedd rhyddhad ardrethi dro ar ôl tro. Gwnaethom hefyd newid y rheolau dim sgôr ar gyfer eiddo gwag er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol roi dim sgôr dim ond mewn achosion pan fo angen gwirioneddol i elusen fod yn berchen ar adeilad gwag neu ei brydlesu.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi pwerau ymchwilio cryfach i gynghorau, gan gynnwys y gallu i gynnal archwiliadau eiddo a gofyn am wybodaeth gan drethdalwyr ac eraill. Mae'r Ddeddf hefyd yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyletswydd newydd ar drethdalwyr i roi gwybod i gynghorau am newidiadau mewn amgylchiadau, rhywbeth sy'n ofynnol gan drethdalwyr o dan gyfundrefnau treth eraill. Rwy'n bwriadu cyflwyno rheoliadau ar gyfer mis Ebrill 2023. Mae ein huchelgais i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi yn parhau i fod yn gryf a byddwn yn mynd ar drywydd newidiadau pellach yn ystod tymor y Senedd.
Er bod ein rhaglen bresennol yn canolbwyntio ar newidiadau yn y tymor byr a chanolig, mae rhai opsiynau ar gyfer diwygio yn parhau i fod yn flaenoriaethau ar gyfer y tymor hwy. Rydym yn parhau i archwilio'r posibilrwydd o dreth gwerth tir yn lle ardrethi annomestig, gan adeiladu ar asesiad technegol manwl Prifysgol Bangor y tymor diwethaf. Dros y pedair blynedd nesaf, byddwn yn symud ymlaen gyda chanfyddiadau'r adroddiad hwn, gan ddefnyddio ystod eang o arbenigedd i ddatblygu dealltwriaeth glir o sut y byddai newid mor sylweddol yn edrych i Gymru a sut y gallai weithio yn ymarferol. Bydd y dadansoddiad hwn yn cynnwys map ffyrdd posibl i'w weithredu.
Rydym yn glir y dylai diwygio ddarparu trethi lleol sy'n amlwg yn well i Gymru, nid rhai sy'n wahanol i'r system bresennol yn unig. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bydd datblygiadau pellach yn gofyn am gydweithio agos â'n holl bartneriaid ac ymgysylltu'n helaeth â chyflogwyr ardrethi.
Bydd y pecyn sylweddol hwn o ddiwygio ardrethi hefyd yn gofyn am gyfuniad o newid deddfwriaethol sylfaenol ac eilaidd. Byddaf yn gweithio'n agos gyda'r Senedd a rhanddeiliaid drwy gydol y gwaith o archwilio a chyflawni'r pecyn uchelgeisiol hwn o ddiwygio ardrethi a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiadau.