Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 29 Mawrth 2022.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dwi ddim eisiau cael fy nhynnu mewn i ryw ddadl ynglŷn â pha ochr i'r ffin sy'n talu'n fwyaf neu'n talu'n lleiaf; y cwestiwn dwi eisiau ei ateb yn y Siambr yma yw: pa ochr o'r ffin sydd â'r gyfundrefn decaf, a'r gyfundrefn sydd yn cael ei gweithredu'n fwyaf effeithiol? A doed a ddelo wedyn beth yw'r gost, cyhyd â bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn deg o fewn y gyfundrefn fydd neu sydd ohoni.
Nawr, rwy'n cytuno, rŷn ni wedi clywed bod ardrethi busnes yn fater gwbl allweddol i fusnesau, onid yw e? Mae'n un o'r costau mwyaf maen nhw'n ei wynebu, ac mae'n ffactor allweddol yn hyfywedd y busnesau yma. Felly, mae cael system sydd mor deg â phosibl yn allweddol. Fel dywedodd y Gweinidog, rŷn ni eisiau creu sefyllfa lle mae'n decach, mae'n wyrddach, ac mae Cymru'n gryfach yn sgil y gyfundrefn yma. Felly, mae yna rôl bwysig o ran adfywio'r stryd fawr yn y drafodaeth sydd o'n blaenau ni, yn ogystal, wrth gwrs, â helpu mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a gyrru lawr allyriadau carbon. Yr un rhwystredigaeth sydd gen i, wrth gwrs, yw, fel sydd wedi cael ei fynegi, rŷn ni wedi bod yn trafod y mater yma ers blynyddoedd mawr. Dwi'n cofio Mark Drakeford, pan oedd e'n Weinidog cyllid, yn trafod yr angen i ddiwygio, a dwi yn gobeithio, a dwi yn cymryd y datganiad yma am beth yw e, fod hwn yn ddatganiad o fwriad i symud nawr go iawn i weithredu ac i ddiwygio ac i gyflwyno'r newidiadau mae nifer ohonom ni eisiau eu gweld.
Yr un nodyn, efallai, o siom yn hyn oll yw, tra bod yna eglurder nawr y bydd diwygiadau i'r dreth annomestig wedi'u cwblhau a'u gweithredu o fewn pedair blynedd—dyna dwi'n deall o'r datganiad—mae sôn am barhau i archwilio treth gwerth tir. Yn ddelfrydol, mi fyddwn i wedi hoffi gweld newid mwy radical yn digwydd yn y pedair blynedd nesaf—cyflwyno, neu yn sicr mynd llawer bellach tuag at gyflwyno, treth gwerth tir. Felly, dwi eisiau clywed gan y Gweinidog beth yw'r amserlen o safbwynt hynny, te. Rŷch chi'n sôn am archwilio'r dreth yna, gwneud mwy o ymchwil, edrych i mewn i'r peth, ond a fydd yna gynnig ar y bwrdd erbyn diwedd y pedair blynedd, er efallai na fydd e wedi cael ei gyflwyno, ar gyfer y diwygiadau ehangach y mae nifer ohonom ni eisiau eu gweld?
Mae rôl llywodraeth leol, fel rydych chi'n cydnabod yn eich datganiad, yn allweddol; y capasiti yw'r cwestiwn, wrth gwrs. Ydych chi'n hyderus bod ganddyn nhw'r capasiti fel ag y mae i chwarae rhan lawn yng nghyd-ddatblygu a chyd-gynhyrchu'r cynigion newydd yma, ond hefyd pan fo'n dod i weithredu neu weinyddu unrhyw ofynion penodol? Rŷn ni'n cwyno bod nifer o gyrff sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn cael llawer mwy o ddyletswyddau a chyfrifoldebau newydd ond ddim wastad yn cael eu hariannu i gyflawni hynny'n llawn. Byddwn i'n hoffi sicrwydd, os oes yna unrhyw ofynion ychwanegol i'r perwyl yna, y bydd yr adnoddau ar gael yn hynny o beth.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r tribiwnlys, rydych chi'n sôn amdanyn nhw yn gweithredu mewn modd mwy addas i Gymru—grêt—a byddwn i'n dweud bod Awdurdod Cyllid Cymru yn enghraifft berffaith i ni o'r math o ddiwylliant rydyn ni eisiau ei annog. Yn wahanol i HMRC, sy'n delio â phroblemau ar ôl i rywun dramgwyddo, mae holl ddiwylliant a holl ffocws Awdurdod Cyllid Cymru ar, wrth gwrs, sicrhau bod hynny ddim yn digwydd yn y lle cyntaf.
Dwi'n cytuno bod angen ailbrisio, neu system revaluation, mwy cyson, mwy deinamig, mwy abl i ymateb i ac adlewyrchu newid mewn amgylchiadau. Gwnaethoch chi sôn am ddiwygio'r broses apêl erbyn Ebrill 2023, ac mae hynny wrth gwrs yn hanfodol, oherwydd byddai rhywun yn rhagweld llawer iawn o waith fyddai angen ei wneud erbyn bod yr ailbrisio yna wedi digwydd. Ond a allwch chi hefyd roi sicrwydd y bydd yna ddigon o gapasiti i ddelio unwaith eto â'r ceisiadau apêl yma mewn modd amserol ac mewn modd tryloyw?