6. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio ardrethi annomestig

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 29 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:52, 29 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch i Sam Rowlands am y sylwadau hynny, ac i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn fy natganiad, mai'r datganiad hwn heddiw yw chwaer ddatganiad y datganiad y gwnes i ar ddiwygio'r dreth gyngor yn ôl ym mis Rhagfyr. Ac wrth gwrs, mae hwn yn ymgymeriad sylweddol ac mae llawer o elfennau iddo, a dyna pam y mae'n ddarn o waith tymor hirach na dim ond cyflwyno rheoliadau i wneud newidiadau tymor byr iawn.

O ran y sylwadau a wnaed am lefel y dreth a delir yma yng Nghymru, rwy'n agored i gael pob math o drafodaeth, ond rwyf i yn credu os oes galwad i ddileu ardrethi busnes yn llwyr, yna rwy'n credu bod yn rhaid iddi ddod gyda'r baich o roi manylion am sut y byddech chi'n codi £1.1 biliwn i ariannu llywodraeth leol a gwasanaethau'r heddlu. Nid wyf i'n credu ei bod yn beth rhesymol gofyn iddyn nhw gael eu dileu heb allu cyflwyno syniadau ynghylch sut y gellid codi arian arall. Ac mae'n bwysig cydnabod hefyd fod pob un geiniog o ardrethi annomestig yn cael ei hailfuddsoddi mewn awdurdodau lleol. Mae'n mynd yn ôl i awdurdodau lleol i helpu i ariannu'r gwasanaethau lleol hynny.

Ac rydym ni yn cydnabod y pwysau y mae'n ei roi ar fusnesau, a dyna pam yr ydym wedi darparu dros £620 miliwn o ryddhad ardrethi i drethdalwyr yng Nghymru eleni, wedi ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru wrth gwrs, sy'n wahanol i'r sefyllfa dros y ffin yn Lloegr. Ac mae angen i ni gofio hefyd fod tri chwarter y trethdalwyr ledled Cymru yn cael rhyddhad ardrethi eleni. Mae hynny'n fwy na 70,000 o fusnesau nad ydyn nhw'n talu unrhyw ardrethi o gwbl. Ac rwy'n credu hefyd fod angen i ni gydnabod bod y sylfaen drethi yma yng Nghymru yn wahanol i'r sylfaen yn Lloegr. Y gwerth ardrethol cyfartalog yng Nghymru yw tua £19,000—yn Lloegr, mae tua £32,000—felly mae'n iawn bod ein system ardrethi a'r rhyddhad sydd ynghlwm wrthyn nhw yn adlewyrchu'r amgylchiadau unigryw sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Roedd cwestiynau ynglŷn â'r gwaith ar drethi gwerth tir, a chais am ragor o wybodaeth. Wel, fe wnes i gyhoeddi adroddiad manwl iawn iawn a ddarparwyd gan Brifysgol Bangor ym mis Mawrth 2020. Rwy'n gwerthfawrogi nad oedd yr Aelod yn y Senedd bryd hynny, ond rwy'n hapus i'w ailddosbarthu i gyd-Aelodau. Ein hamcan mewn gwirionedd wrth archwilio treth gwerth tir yn lle un neu'r ddau o'r trethi lleol yn bennaf yw codi refeniw sefydlog ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd decaf bosibl wrth chwilio, yn amlwg, am ganlyniadau manteisiol eraill lle bo hynny'n bosibl. Fe wnaeth Prifysgol Bangor ddod i'r casgliad y gallai trethi gwerth tir lleol godi digon o refeniw i ddisodli'r trethi lleol presennol, ac y gallai dosbarthu atebolrwydd fod yn fwy blaengar, a hynny i raddau sylweddol, na'r drefn trethi lleol bresennol. Ond mae hefyd yn tynnu sylw at feysydd gwaith y byddai angen i ni eu gwneud yn y dyfodol i asesu'n llawnach a fyddai'n amlwg yn well na'n trefniadau presennol, a dyna'r math o waith y mae angen i ni fod yn ei wneud wrth i ni symud ymlaen ar yr agenda bwysig hon.

Codwyd y cwestiwn ynglŷn â'r lluosydd, ond wrth gwrs yn 2021-22 fe wnaethom ni ddewis rhewi'r lluosydd, a hynny er mwyn atal cynnydd mewn biliau i drethdalwyr a darparu cymorth parhaus i fusnesau yn ystod yr hyn yr ydym yn dal i'w gydnabod yn gyfnod heriol iawn. Gallaf gadarnhau ein bod yn cynnal y dull hwn ar gyfer 2022-23, gan gydnabod effaith estynedig pandemig y coronafeirws ar fusnesau ac ar sefydliadau eraill.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ffederasiwn Busnesau Bach am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn. Rydym o'r farn bod ein trafodaethau gyda nhw yn hynod gynhyrchiol. Maen nhw'n rhanddeiliaid rhagorol o ran cynrychioli barn busnesau bach ac maen nhw'n cydnabod eu hunain, rwy'n credu, fod cydbwysedd heriol i'w sicrhau o ran codi refeniw'n deg ac ariannu gwasanaethau lleol. Maen nhw hefyd yn cydnabod y bydd angen gwneud gwaith sylweddol i symud i ffwrdd o unrhyw system sydd wedi esblygu ac sydd wedi ei hymgorffori dros 30 mlynedd. Mae hwn yn dasg enfawr, a dyna pam yr wyf i wedi amlinellu yn y datganiad heddiw rai o elfennau pwysig y gwaith hwnnw—bydd ailbrisio a'n dull o wneud hynny yn hollbwysig. Bydd y system apelio yn hollbwysig. Ond rwyf i hefyd wedi myfyrio ar rywfaint o'r cynnydd sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud eisoes, yn enwedig, yn fy marn i, ym meysydd osgoi trethi a thwyll, lle gallwn ddweud yn sicr ein bod ni wedi cymryd camau pwysig yn ddiweddar.

Felly, mae hwn yn ddarn parhaus o waith. Mae'n ddarn enfawr o waith, ond rwy'n awyddus iawn i fynd ati mewn ffordd gydweithredol iawn, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau gyda'r holl gyd-Aelodau yn y dyfodol.