Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 29 Mawrth 2022.
Ein blaenoriaeth, Dirprwy Lywydd, yw sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo'n ddiogel yn awr ac yn y dyfodol drwy leihau'r perygl o dirlithriadau pellach. Gallaf hysbysu'r Senedd ein bod ni wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Ein tasg gyntaf oedd pennu maint y broblem. Mae'r gwaith o nodi ac asesu statws yr holl domenni glo segur wedi bod yn un hynod gymhleth. Rydym yn gwybod bellach fod dros 2,500 o domenni glo segur ledled Cymru, a bod 327 yn y categori uwch. Mae'r cynnig sydd gerbron y Senedd yfory yn cyfeirio at domenni risg uchel, ond hoffwn i fod yn glir i'r Aelodau nad yw bod mewn categori â sgôr uwch gyfystyr â bod yn risg uchel, ac mae'r iaith yr ydym yn ei defnyddio yn bwysig.
Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar y tomenni y mae angen y lefel uchaf o fonitro arnyn nhw ac rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid i gynnal arolygiadau rheolaidd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel diwydiant gofod y DU i dreialu technoleg i wella'r ffordd y caiff tomenni eu monitro yn y dyfodol. Mae llawer y gallwn ei wneud i fesur symudiadau tir a chyfundrefnau dŵr ac mae rhai o'r technolegau sy'n cael eu profi yn arloesol yn y byd. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda'r sector ymchwil i gael y dystiolaeth orau bosibl ar effeithiau'r hinsawdd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn deall sefydlogrwydd hirdymor tomenni a llywio dulliau arloesol o adfer tomenni. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd cost cwblhau pob cam o waith adfer tomen Tylorstown, a achosodd y pryder mwyaf, tua £20 miliwn. Daw bron y cyfan o'r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru.
Hoffwn i fod yn glir gyda'r Aelodau mai Llywodraeth Cymru, nid Llywodraeth y DU, sy'n parhau i ariannu'r Awdurdod Glo i gynnal arolygiadau. Hyd yma, rydym wedi gwario £1.6 miliwn ar y dasg hon. Mae'r Awdurdod Glo yn amcangyfrif y bydd angen £30 miliwn i'w codi i gyd i'r safon, a £5 miliwn arall y flwyddyn i'w cynnal. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir mai cost y gwaith adfer llawn fydd rhwng £500 miliwn a £600 miliwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £44.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf fel bod y gwaith hanfodol hwn yn parhau. Ond etifeddiaeth o orffennol diwydiannol Prydain yw hyn. Prydain a elwodd ar fanteision ein hadnoddau naturiol, ac roedd yr holl domenni hyn ar waith cyn i bŵer gael ei ddatganoli i Gymru ym 1999. Ac eto, dim ond £9 miliwn y mae Llywodraeth y DU yn fodlon ei gyfrannu at y gost o'u glanhau. Dywedodd Is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David T.C. Davies, wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin
'os yw Llywodraeth Lafur Cymru yn credu bod y tomenni glo hynny'n anniogel, mae'n rhaid iddyn nhw weithredu yn awr i'w diogelu. Mae ganddi'r arian i wneud hynny.'
Nid ni sy'n dweud ei fod yn anniogel, ond yr Awdurdod Glo, nad yw wedi ei ddatganoli, ac nid oes gennym yr arian i'w wneud. Rydym yn disgrifio'r Deyrnas Unedig fel undeb sy'n rhannu. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ailfeddwl am chwarae ei rhan wrth glirio eu hetifeddiaeth nhw o'n gorffennol diwydiannol cyfunol.
Mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio'n ddiwyd gyda'i gilydd i ddarparu dull cyson o ymdrin â'r drefn arolygu bresennol. Daeth trydedd rownd o arolygiadau gaeaf o'r tomenni sy'n uwch ar y rhestr i ben ym mis Chwefror, ac mae'r rhaglen arolygu yn un sylweddol. Mae'r canlyniadau hyd yma wedi golygu bod angen gwaith cynnal a chadw i helpu i sicrhau sefydlogrwydd safleoedd. Gan fod canran uchel o'r tomenni hyn mewn perchnogaeth breifat, mae nifer o faterion i'w datrys mewn cysylltiad â thrin gwybodaeth, gan gynnwys sicrhau bod sicrwydd ansawdd cadarn wedi ei gwblhau a bod materion diogelu data wedi cael sylw llawn. Mae hyn wedi cymryd llawer o amser.
Er bod ein dealltwriaeth o'r darlun cyffredinol wedi gwella'n aruthrol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae mwy o domenni'n cael eu nodi o hyd. Mae'r gwaith hwn yn sicr yn brosiect byw, a gallwn ddisgwyl addasiadau pellach i'r nifer cyffredinol o domenni wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gyhoeddi lleoliadau'r tomenni sy'n uwch ar y rhestr cyn gynted â phosibl a chyn gynted ag y bo'n gyfrifol i wneud hynny, ond mae'n rhaid i ni fod yn hyderus yn ein hasesiadau cyn i ni wneud hynny. Ar gyfer tomenni sy'n uwch ar y rhestr, mae gwybodaeth eisoes wedi ei rhannu ag awdurdodau lleol a fforymau cadernid lleol i helpu i ddatblygu cynlluniau parodrwydd mewn argyfwng lle bo angen. Ond mae mynediad y cyhoedd i'r data ar leoliadau tomenni sy'n uwch ar y rhestr yn fater sensitif, ac mae'n hanfodol bod yr wybodaeth, pan gaiff ei chyhoeddi, yn gywir ac mor gyflawn â phosibl. Pan fydd y gwaith hwn wedi ei gwblhau, byddwn yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y dyddiad cyhoeddi.
Dirprwy Lywydd, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo'n ddiogel yn awr ac yn y dyfodol. Nod ein cynigion ar gyfer cyfundrefn newydd yw cyflawni hynny drwy leihau'r risg o dirlithriadau pellach. Diolch.