9. Dadl Fer: Clefyd niwronau motor a mynediad at driniaeth a chyfleusterau yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 6:20, 30 Mawrth 2022

Yn ôl y data, mae'r risg o berson yn datblygu MND o gwmpas un mewn 300. Yng Nghymru, ar unrhyw un adeg, mae tua 200 o bobl yn byw gydag MND. Mae'r rhif yma yn is na'r disgwyl, efallai, o ganlyniad i allu'r clefyd i ddatblygu'n hynod o gyflym. I draean o'r bobl sy'n derbyn diagnosis o MND, mae hyn yn golygu y byddant, mae'n drist i nodi, yn marw o fewn blwyddyn o'r diagnosis hwnnw. Mae dros hanner o'r rheini sydd yn byw gydag MND yn marw o fewn dwy flynedd o dderbyn y diagnosis. Pwysig iawn yw cofio, wrth gwrs, nad oes unrhyw wellhad o MND yn bodoli ar hyn y bryd, gwaetha'r modd. Gyda sefyllfa mor ddifrifol â hyn yn wynebu’r rheina sy'n byw gydag MND, mae'n hollol amlwg bod ymchwil a phrofion clinigol yn chwarae rôl allweddol wrth inni frwydro yn erbyn y clefyd erchyll yma. Positif, felly, yw'r newyddion fod profion clinigol ar waith yma yng Nghymru, ond yn anffodus, yr adborth sy'n dod o'r broses yma yw fod cynnydd yn araf iawn.

Roedd adroddiad ym mis Ionawr eleni yn nodi o’r 50 person oedd wedi cofrestru ar gyfer y profion hyn ers mis Medi 2021, dim ond un person oedd wedi cael eu gweld. Tra fy mod i'n mawr obeithio bod y profion wedi cyflymu ers hynny, hoffwn fod yn hollol glir nad beirniadaeth o'r arbenigwyr clinigol yw'r diffyg cynnydd yma. Mae’r diffyg cynnydd yma yn dangos diffyg capasiti yn y system i fedru gwthio’r gwaith yma ymlaen. O'r hyn rwy'n deall, mae’r unigolion sydd ynghlwm â’r rhaglen yma yn aml yn gwneud y gwaith ar ben pentwr o gyfrifoldebau eraill ym maes niwroleg. Onid oes achos yma dros benodi niwrolegydd arweiniol gyda briff penodol dros ymchwil a thriniaeth MND a fyddai’n gallu gyrru’r rhaglen profion allweddol yma ymlaen? Mae’r Gymdeithas MND wedi dweud yn benodol fod prinder o staff yn ffactor enfawr, gyda phrinder o niwrolegwyr i fedru rhedeg y profion, sydd yn her enfawr, mae’n amlwg. Mae’r athro niwroleg Ammar Al-Chalabi wedi adleisio'r pwynt yma gan ddweud y byddai Cymru’n buddio’n enfawr o gael niwrolegydd arweiniol gyda’r blaenoriaethau yma wedi'u gosod yn glir yn eu contract nhw.

Arf arall sydd gennym yn y frwydr yn erbyn y clefyd yw’r profion MND-SMART, a ddechreuodd ddiwedd y llynedd yng Nghymru. Mae MND-SMART yn brawf arloesol sydd yn edrych am gyffuriau newydd sydd yn medru arafu datblygiad MND, gyda’r bwriad o ddatblygu ymhellach i fedru stopio'r clefyd, ac yn y diwedd, gwrthdroi'r clefyd i gleifion sydd wedi datblygu symptomau estynedig. Yn anffodus, mae mynediad at y profion yma yn dal i fod yn anodd iawn i bobl sy’n byw gyda MND. Yn bresennol, briff rhwydwaith MND de Cymru yw darparu gofal amlddisgyblaethol ar gyfer pobl sydd yn byw gydag MND ar hyd de Cymru a rhan ddeheuol o’r canolbarth, ac maen nhw’n derbyn cyllid gan y gwasanaeth iechyd a gan y Gymdeithas MND. Y rhwydwaith sydd felly gyda’r cyfrifoldeb am ddarparu’r profion SMART, wrth gymryd rhan mewn astudiaethau eraill.

Rwyf wedi bod yn sgwrsio gyda theulu yn fy etholaeth i sydd wedi profi’r problemau systematig sydd gyda ni ar hyn o bryd gydag ymchwil a thriniaeth MND, sef teulu’r Gledhills. Cafodd Bob Gledhill ddiagnosis o MND yn Hydref 2020, ac yn anffodus nid oedd y profion SMART yng Nghymru ar gael pan dderbyniodd y diagnosis hwnnw. Roedd gwraig Bob, Lowri, am wneud unrhyw beth roedd hi'n medru ei wneud i sicrhau mynediad i Bob at brofion SMART. Aeth Lowri mor bell â Rhydychen i geisio cofrestru ei gwr mewn rhaglen SMART ond heb unrhyw lwyddiant. Yn anffodus, nid yw canolfannau profi yn awyddus i gofrestru pobl sydd yn byw’n bell i ffwrdd. Roedd hyn yn amlwg yn hynod o rwystredig iddyn nhw fel teulu wrth i amser fynd yn ei flaen, a hwythau yn dal yn edrych am fynediad at y driniaeth oedd yn cynnig y siawns orau o wella’r sefyllfa, waeth pa mor fach fo’r siawns hwnnw.