Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 30 Mawrth 2022.
Ers hynny, mae Bob wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o’r prawf SMART yng Nghymru, a thra bod hyn yn ddatblygiad positif, rwyf ar ddeall fod Bob dal heb gael ei weld gan arbenigwr fel rhan o’r broses hynny, a hyn nawr tua 18 mis—blwyddyn a hanner—ers iddo dderbyn ei ddiagnosis. Cyfeiriaf yn ôl at yr ystadegau a ddyfynnais i ar ddechrau'r ddadl yma, sy’n amlygu’r ffaith fod amser yn bendant yn erbyn rhywun mewn sefyllfa fel Bob erbyn hyn. Fe fyddwch chi eich hun, Weinidog, yn deall fod MND fel clefyd yn annaroganadwy ac yn datblygu yn gyflym iawn, ac o ganlyniad i hyn mae mynediad amserol at wasanaethau a all gynnig unrhyw driniaeth yn dyngedfennol. Nid yw amser ar ochr pobl fel Bob sydd yn byw gydag MND. Siaradais i â Lowri am ei phrofiadau hi a’u profiadau nhw fel teulu, ac rwyf am ddarllen i chi ei geiriau hi, os gallaf i:
'Yn bersonol, does dim geiriau mewn bodolaeth sydd yn medru portreadu yn effeithiol beth mae ein teulu ni wedi profi yn y flwyddyn a hanner ers i Bob cael y diagnosis o glefyd niwronau motor. Sut ydych chi’n disgrifio'r dirywiad di-baid o ryddid personol sy’n dod gyda’r clefyd yma, sydd yn eich rhwystro rhag cyflawni hyd yn oed y tasgau mwyaf syml—y tasgau sydd yn eich diffinio chi, ac yn eich gwneud chi'r person ydych chi? Sut galla i ddechrau disgrifio sut mae’n teimlo i wylio rhywun rydych chi’n caru yn baglu a chwympo dro ar ôl tro, ond eu bod nhw mor rhwystredig ac eisiau bod yn annibynnol, eu bod nhw’n gwrthod help i godi eto? Sut ydych chi’n disgrifio'r dewrder sydd ei angen ar berson i fedru codi dro ar ôl tro pan fod pob tro yn fwy anodd na’r un diwethaf yn ddyddiol? Sut galla i ddisgrifio'r effaith o lythyr arall yn dweud nad oes modd cael mynediad at y profion clinigol, pan fod bywyd eich partner nawr yn fater o fisoedd yn hytrach na blynyddoedd? Sut galla i ddisgrifio'r cryfder sydd ei angen i barhau i frwydro dros gleifion MND pan fod yr ymateb sydd yn dod yn ôl o’r system bob tro yn dweud wrthych chi ei bod yn well rhoi’r ffidl yn y to, dweud diolch am y gadair olwyn, ac eistedd yn dawel yn y gornel?'
Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd am ddymuno’r gorau i Bob, Lowri a'r teulu wrth iddyn nhw barhau i ymdrechu mor galed trwy gyfnod mor heriol. Wrth gwrs, mae datblygiadau diweddar ar lefel y Deyrnas Unedig, gyda £50 miliwn wedi ei addo ym mis Tachwedd y llynedd i ddatblygu athrofa ymchwil MND cenedlaethol, i'w croesawu. Er mwyn i ni yng Nghymru fod yn rhan o’r prosiect yma gyda’r corff newydd, mae angen i ni ddatblygu sefydliad neu ganolfan lloeren, ac wedyn fe fydd modd i ni gael mynediad at y cyllid mor allweddol yma.
I mi, Weinidog, ar ôl darllen mas a chlywed yn uniongyrchol eiriau Lowri, mae’r datrysiad gorau i’r sefyllfa yma yng Nghymru yn hollol glir—mae angen niwrolegydd arweiniol ar gontract llawn amser yma yng Nghymru, wedi ei ariannu neu ei gefnogi’n sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Fe fyddai'r rôl yma yn medru datblygu hygyrchedd yr ymchwil clinigol i bobl sy’n byw gydag MND, arwain y cynnydd o dreialon a phrofion yng Nghymru, a sicrhau fod gan Gymru rôl yn yr athrofa ymchwil MND cenedlaethol newydd. A wnewch chi felly, Weinidog, er mwyn cefnogi'r bobl hynny yng Nghymru, fel teulu’r Gledhills, sydd yn byw â’r clefyd creulon yma, a’r rheini a fydd yn derbyn diagnosis MND yn y dyfodol, ymrwymo i hynny, fel bod modd i ni yng Nghymru adeiladu'r capasiti o fewn ein gwlad ein hunain i roi'r gefnogaeth orau posib i’r teuluoedd cwbl, cwbl arwrol yma, sydd yn delio â goblygiadau clefyd niwronau motor, ac i leddfu'r boen a'r pwysau arnyn nhw rwyf wedi gweld yn uniongyrchol? Dwi'n gwybod bod gyda chi, Weinidog, brofiad yn eich teulu eich hunan. Gad inni gymryd y cam yma a fydd yn golygu cymaint i gymaint o deuluoedd ar draws Cymru.