Part of the debate – Senedd Cymru am 6:39 pm ar 30 Mawrth 2022.
Yn y gyllideb ym mis Mawrth, fe wnaethom ni ychwanegu £2 filiwn at y gyllideb addasiadau, gyda chyllid ychwanegol ar gyfer gofal a thrwsio ar gyfer awdurdodau lleol, fel bod pobl yn gallu addasu eu tai nhw wrth eu bod nhw'n gwaethygu. Mae'r mwyafrif o addasiadau yn fach ac yn cael eu cwblhau mewn diwrnodau. Dros y ddwy flynedd diwethaf, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ychwanegu £2 filiwn at y cyllid i awdurdodau lleol.