Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 30 Mawrth 2022.
Diolch i’r Gweinidog am ei ateb. Yn bersonol, hoffwn ganmol Cyngor Abertawe a’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lleol am y gwaith y maent wedi’i wneud yn datgarboneiddio eu tai newydd. Rwy’n cynrychioli etholaeth a chanddi nifer fawr o dai sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a thai rhentu preifat, a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Pa gynnydd a wnaed i leihau’r gwres a gollir o dai preifat a thai rhentu preifat? A beth yw'r cynllun i ddatgarboneiddio'r tai hyn? Rwy'n cydnabod y bydd yn broses hir ac rwy'n cydnabod y bydd yn broses anodd.