Datgarboneiddio Tai

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 1:38, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Weinidog, mae mwy na 70 y cant o’r 1.4 miliwn o gartrefi sydd gennym yng Nghymru yn eiddo i berchen-feddianwyr. Ar gyfartaledd, mae ein heiddo'n hŷn nag mewn mannau eraill yn y DU, a bydd llawer yn wynebu her i ddatgarboneiddio yn unol â’r targed a osodwyd gennych. Os mai cyflenwad ynni yw’r broblem, sut y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i deuluoedd symud oddi wrth nwy tuag at ffynonellau adnewyddadwy, a sut y bydd yn talu am hynny?