Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 30 Mawrth 2022.
Rydym yn buddsoddi mewn cyflwyno pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd i gefnogi'r newid i gerbydau trydan yn unol â'n strategaeth wefru cerbydau trydan. Rydym hefyd yn mapio cynlluniau gyda'r diwydiant i newid i fysiau dim allyriadau, treialu cynlluniau tacsis a cherbydau hurio preifat, treialu cynlluniau e-feiciau a buddsoddi mewn clybiau ceir dim allyriadau.