Diwallu'r Angen am Dai

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:17, 30 Mawrth 2022

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnna. Dwi'n croesawu'r cynnydd sydd wedi cael ei weld yn y gyllideb tuag at dai cymdeithasol. Os ydyn ni i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yna mae'n rhaid, wrth gwrs, wrth rhagor o dai cymdeithasol, ond mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fod yn addas i bwrpas. Dwi wedi mynd i weld nifer fawr o etholwyr yn ddiweddar sydd yn gorfod byw mewn tai anaddas. Cymerwch Claire, er enghraifft. Mae hi'n fam i bedwar o blant bach, dwy ohonyn nhw'n fabanod, ac mae hithau'n byw ar y fflat uchaf ac yn gorfod cario'r goetsh i fyny, gadael y baban i fyny'r staer, yna mynd i lawr staer i gario'r goetsh, yna mynd â'r ail faban, ac yna'n ôl lawr staer eto am y trydydd neu'r pedwerydd gwaith i fynd i nôl ei siopa—tŷ cwbl anaddas ar ei chyfer hi, a'r tŷ hefyd yn oer ac yn damp. Un enghraifft ydy Claire o nifer fawr yn fy etholaeth i, heb sôn am enghreifftiau ym mhob etholaeth arall.

Rydyn ni'n gwybod hefyd fod yna alw am fyngalos ar gyfer pobl ag anghenion symudedd neu bobl oedrannus, ac mae yna alw cynyddol am dai un llofft ar gyfer haen o bobl benodol o fewn ein cymdeithas ni. Pa gamau, felly, ydych chi fel Llywodraeth yn eu cymryd, nid yn unig i adeiladu mwy o dai ond i adnabod anghenion pobl a sicrhau bod y tai newydd naill ai yn cyfarch y galw neu'n medru cael eu haddasu'n hawdd ac yn rhad i gyfarch anghenion penodol?