Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:31, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf wedi bod yn ei ddal yn ôl. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn. Fe wyddom—a bydd yn cofio o fy natganiad yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau bod gennym system sy'n cyflawni safonau a dyheadau uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr—mai un o'r pethau sy'n cyfrannu'n allweddol at hynny yw arweinyddiaeth ysgolion ac mae arweinyddiaeth dda mewn ysgolion yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn nodi hynny fel blaenoriaeth. Mae'r gwaith gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn y lle hwn yn dystiolaeth o hynny. Byddaf yn cyflwyno datganiadau pellach mewn perthynas ag arweinyddiaeth yn ystod tymor yr haf.