2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 30 Mawrth 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Weinidog, gallwn ofyn myrdd o bethau ichi heddiw, ar brydau ysgol am ddim, llyfr jiwbilî'r Frenhines, arholiadau, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, neu unrhyw beth, ond mae gennyf faterion gwirioneddol bwysig yr hoffwn ichi roi sylw iddynt. Mae wedi dod i'r amlwg yn ystod ein hadolygiad o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion a gynhelir gennym ar hyn o bryd yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nad oes neb wedi'i gomisiynu gan y Llywodraeth hon i gasglu tystiolaeth ar yr effaith y mae wedi'i chael ar blant sy'n cael eu haddysg gartref. Dechreuodd hyn ganu larymau yn fy meddwl wrth gwrs, gan fod Cymru wedi gweld nifer y plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Felly, gellid dweud bod y dystiolaeth hon yn hanfodol mewn gwirionedd, ac mae'n arwain at gwestiynau pellach ynglŷn â pha dystiolaeth sy'n bodoli ar blant a addysgir gartref. Felly, eglurodd yr Athro Renold, a gomisiynwyd gan eich Llywodraeth, nad oes tystiolaeth ar gael, ac os caf ei dyfynnu hi, dywedodd fod gwir angen ei chael. Felly, a oes gennych dystiolaeth, Weinidog, am blant sy'n cael eu haddysgu gartref a sut yr effeithiwyd arnynt, nid yn unig gan aflonyddu rhywiol gan gyfoedion, ond gan y pandemig ac yn fwy cyffredinol? A pha amddiffyniadau sydd ar waith ar gyfer y plant hyn tra'u bod yn cael eu haddysg gartref?
Mae'r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn am fater difrifol iawn. Ac mae hi'n iawn, yn amlwg, i nodi'r ffaith ei bod yn fwy heriol ceisio deall profiad plant sy'n cael eu haddysgu gartref, a dyna pam ein bod yn awyddus i sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu yn yr ysgol gyda'u cyfoedion, yn ddarostyngedig i'r drefn ddiogelu y mae pob ysgol yn ei gweithredu.
Bydd yn gwybod bod y gwaith a oedd gennym ar y gweill i gyflwyno deddfwriaeth i ddiweddaru'r deddfau addysgu gartref wedi'i ohirio, neu wedi'i oedi i bob pwrpas, oherwydd COVID. Ond gallaf ddweud ein bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn—gobeithio y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yr haf hwn—gyda'r bwriad o'i roi ar waith erbyn y flwyddyn nesaf, a fyddai'n cryfhau'r offer sydd ar gael i awdurdodau lleol yn y maes hwn.
Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y gwyddoch, Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o arweinyddiaeth addysgol y llynedd. Cwblhawyd yr adolygiad arweinyddiaeth yr hydref diwethaf, ond nid yw wedi'i gyhoeddi. Weinidog, yn syml: pryd y byddwch yn rhyddhau'r adroddiad hwn a pham y buoch yn ei ddal yn ôl cyhyd?
Wel, nid wyf wedi bod yn ei ddal yn ôl. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn. Fe wyddom—a bydd yn cofio o fy natganiad yr wythnos diwethaf ynglŷn â sicrhau bod gennym system sy'n cyflawni safonau a dyheadau uchel ar gyfer ein holl ddysgwyr—mai un o'r pethau sy'n cyfrannu'n allweddol at hynny yw arweinyddiaeth ysgolion ac mae arweinyddiaeth dda mewn ysgolion yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol. Felly, mae'r Llywodraeth hon yn nodi hynny fel blaenoriaeth. Mae'r gwaith gyda'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn y lle hwn yn dystiolaeth o hynny. Byddaf yn cyflwyno datganiadau pellach mewn perthynas ag arweinyddiaeth yn ystod tymor yr haf.
Weinidog, nid yw'n ddigon da eich bod wedi bod yn dal yr adroddiad hwn yn ôl cyhyd. Dywedwyd wrthym yn ystod y cyhoeddiad am yr adolygiad:
'Bydd yr Adolygiad Arweinyddiaeth hwn yn llywio datblygiadau yn y dyfodol ac yn rhoi eglurder ar y cymorth sydd gennym i arweinwyr ysgolion ar draws y system, a'r cymorth y bydd ei angen arnynt i'w galluogi i wireddu'r cwricwlwm newydd.'
Dywedwyd wrthym hefyd y byddai'n cael ei ryddhau ddiwedd y llynedd, yma yn natganiad eich Llywodraeth eich hun i'r wasg—yr adroddiad penodol hwn, Weinidog. Pam nad yw wedi'i ryddhau, Weinidog? Ai oherwydd bod yr adroddiad yn eithaf damniol ynglŷn â'r consortia rhanbarthol ac felly, drwy gysylltiad, ynglŷn ag arweinyddiaeth y Llywodraeth hon ar addysg yng Nghymru? Weinidog, mae'n fater o 'ie' neu 'na' syml ar hyn: a wnewch chi ymrwymo i ryddhau'r adroddiad penodol hwnnw ar unwaith?
Fel y dywedais wrth yr Aelod yn fy ymateb cynharach, bwriadaf gyflwyno datganiad yn nhymor yr haf ar arweinyddiaeth a bydd hwnnw'n nodi ein safbwynt bryd hynny.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mae adroddiad blynyddol diweddaraf 'Cymraeg 2050', a gyhoeddwyd mis diwethaf, yn nodi bod yna bellach 19 o ganolfannau trochi a thair canolfan uwchradd ar draws 10 sir yng Nghymru, gyda siroedd yn darparu cymorth trochi hwyr i ddysgwyr o ystod o oedrannau. Hefyd, mis diwethaf, cyhoeddodd Estyn adroddiad thematig o ran addysg drochi Cymraeg, ac mae hwn yn rhestri'r canolfannau trochi Cymraeg yng Nghymru ac mae'n gwneud yn glir bod diffyg canolfannau trochi mewn 12 awdurdod lleol—a hyd yn oed pan fod yna ganolfan, nifer bach o ganolfannau trochi sydd.
Fel mae'r Gweinidog wedi'i gydnabod, mae darpariaeth trochi hwyr yn hanfodol wrth inni weithio tuag at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac er bod £2.2 miliwn wedi cael ei gyhoeddi i gefnogi trochi yn y Gymraeg, a bod wyth ardal awdurdod lleol wedi creu canolfannau trochi hwyr Cymraeg cyntaf, mae yna'n dal angen dirfawr ledled Cymru. Pa gynnydd sydd wedi ei wneud, felly, Weinidog, yn sgil hyn, o ran ehangu nifer y canolfannau trochi ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru, ac ydy'r £2.2 miliwn o gyllid a ddyrannwyd yn mynd i fod yn ddigon i ddiwallu'r angen a hynny mewn modd sy'n gyfartal a chyson ledled Cymru?
Wel, mae'r cwestiwn—. Diolch i'r Aelod am y gydnabyddiaeth o'r buddsoddiad o £2.2 miliwn eleni. Mae'r buddsoddiad hwnnw, wrth gwrs, yn gam mawr ymlaen. Rwy wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r sector drochi oherwydd y rôl greiddiol sydd gan drochi yn darparu mynediad hafal at addysg Gymraeg.
Mae amryw o gyfleodd fan hyn. Beth rŷn ni wedi'i weld gyda dyraniad y grant o jest dros £2 filiwn yw bod diddordeb ym mhob rhan o Gymru i allu cynyddu'r gallu i ddarparu. Dyw pob un awdurdod ddim yn yr un man o ran eu llwybr tuag at hynny. Mae rhai, wrth gwrs, yn arloesi ac yn arwain y ffordd, ac yn dangos esiampl efallai i rannau eraill o Gymru i ddysgu. Felly, mae hynny'n beth calonogol yn ei hunan, ond mae pob rhan, pob awdurdod lleol, wedi dangos diddordeb, ond efallai diddordeb o wahanol fath. Mae rhai'n ehangu darpariaeth, mae rhai yn ehangu cyflogi staff i allu dechrau ar y llwybr, ond mae'r darlun o gynnydd yn gyffredin ar draws Cymru.
Diolch, Weinidog. Ar thema debyg, cyfeiriodd Samuel Kurtz at ei etholwr yn gynharach, gan ddisgrifio ADY fel 'loteri cod post', ac fel y gwyddoch yn iawn, un o nodau craidd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw system ddwyieithog. Codwyd pryderon yn ystod taith y Ddeddf drwy'r Senedd, yn bennaf ynghylch argaeledd gwasanaethau ADY drwy gyfrwng y Gymraeg a gallu'r system i ateb y galw. Hynny yw, a yw'r gweithlu angenrheidiol ar waith i sicrhau mynediad cyfartal at ddarpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg.
O ran y ddarpariaeth bresennol, lle mae angen cymorth mwy arbenigol, fel cymorth gan seicolegwyr addysg neu therapyddion lleferydd ac iaith, nid yw hyn bob amser ar gael yn Gymraeg, oherwydd diffyg niferoedd digonol o weithwyr proffesiynol hyfforddedig mewn ardal leol benodol. Unwaith eto, mae hyn yn amrywio rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'r cyllid sydd wedi'i ddarparu ar gyfer ADY, gan gynnwys y £18 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ond hoffwn ofyn i'r Gweinidog: faint o fuddsoddiad sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y system ADY yn wirioneddol ddwyieithog, drwy gynyddu capasiti canolfannau addysgol a chynyddu'r gweithlu ADY cyfrwng Cymraeg?
Wel, credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am y—. Yn amlwg, mae'n hanfodol gallu darparu gwasanaethau a chymorth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, mae'r cwestiwn am recriwtio yn rhan o gyfres ehangach o heriau yr ydym wedi'u trafod yn y Siambr yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan o'r cynllun recriwtio y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Ar fater seicolegwyr addysg yn benodol, rydym wedi bod yn awyddus i sicrhau bod yr arian a ddarperir i gefnogi'r maes yng Nghymru hefyd yn annog y rhai sy'n ei ymarfer drwy astudio i barhau i ymarfer yng Nghymru, a gobeithiwn y bydd hynny'n denu siaradwyr Cymraeg hefyd yn amlwg, ac i sicrhau eu bod yn parhau i weithio ac ymarfer yng Nghymru, oherwydd mae'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio yn y maes hwnnw yn her wirioneddol.
Mewn perthynas â—.
O edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth, fel rhan o'u cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n ofynnol ar bob awdurdod lleol ddisgrifio'r hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael yn y Gymraeg, yn seiliedig ar y review bydd pob awdurdod wedi ei wneud o dan y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Felly, mae hynny'n rhan o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Ac, yn fwy eang na hynny, mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau cytundeb trwyddedu gyda chwmnïau cyhoeddi masnachol i gael fersiynau Cymraeg o adnoddau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, fel profion dyslecsia ac adnoddau therapi iaith a lleferydd. Felly, mae'r gwaith yna yn digwydd ar hyn o bryd.