Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 30 Mawrth 2022.
Rwy'n rhannu pryder yr Aelod am yr amgylchiadau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn, ac fel y gŵyr, diben y diwygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yw mynd i'r afael â'r ystod wirioneddol o heriau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn. Mae'r rhain yn ddiwygiadau arwyddocaol iawn, a gwn fod yr Aelod wedi ein herio o'r blaen mewn perthynas â'r gefnogaeth i'r system i gyflawni'r diwygiadau hyn yn effeithiol. Rwy'n gobeithio y bydd yn cydnabod, yn ystod y chwe mis diwethaf, ein bod wedi gallu darparu adnoddau pellach i'r system er mwyn gallu ymateb i'r mathau o heriau y mae'n eu disgrifio yn ei gwestiwn. Ac rwyf wedi bod yn parhau i wneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf, mewn perthynas ag effaith y pandemig, a chostau trawsnewid y system hefyd.