Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 30 Mawrth 2022.
Ydynt, maent yn eithaf pryderus, mewn gwirionedd, pan fo'r data diweddaraf ar lefel y cronfeydd wrth gefn a ddelir gan ysgolion yn dangos cynnydd ymddangosiadol sydyn o £32 miliwn, sef £70 y disgybl, ym mis Mawrth 2020, i £181 miliwn, sef £393 y disgybl ym mis Mawrth 2021. Cronfeydd wrth gefn yw'r rhain. Mae'r arian hwnnw'n eistedd yno. Nawr, wrth inni ragweld dyfodiad plant o Wcráin i Gymru, a chyda'r cronfeydd hyn yn y cyfrifon banc o fewn y maes addysg hwn, a yw'n debygol y gellid rhyddhau rhai o'r cronfeydd wrth gefn hyn i ddarparu ar gyfer Wcreiniaid ifanc sy'n dod i Gymru, fel y gallwn sicrhau eu llesiant, fel Aelodau yma, gan y byddant yn ein gofal, a sicrhau nad yw ein system addysg ein hunain yn cael ei rhoi o dan unrhyw bwysau gormodol?