Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 30 Mawrth 2022.
Nid oedd y lefel uchel o gronfeydd wrth gefn y llynedd yn syndod, oherwydd bod llawer o weithgareddau wedi cael eu gohirio a bod arian ychwanegol wedi cael ei ddarparu yn ystod y pandemig. Gwyddom mai sefyllfa dros dro yw hon, ac rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i weithio gyda'u hysgolion i reoli unrhyw arian dros ben yn hyblyg o dan yr amgylchiadau presennol.