Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 30 Mawrth 2022.
Weinidog, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan enfawr yn natblygiad plant ifanc, ac i rai o'r plant mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, yr ysgol yw'r unig gyfle sydd ganddynt i gael mynediad at chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon. Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith yn ystod gwyliau'r Pasg i gefnogi plant sy'n byw mewn tlodi i gael mynediad gwych at gyfleusterau chwaraeon? Diolch, Lywydd.