2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 30 Mawrth 2022.
7. Pa gymorth y mae'r Gweinidog yn ei roi ar waith i gefnogi disgyblion sy'n byw mewn tlodi dros wyliau ysgol y Pasg? OQ57885
Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi yn flaenoriaeth allweddol i ni. Fel rhan o becyn cymorth ehangach i helpu teuluoedd sy'n cael trafferthion, mae £4.4 miliwn ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer 2022-2023 i gefnogi cost prydau gwyliau i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg yn y flwyddyn academaidd hon.
Rwy'n ddiolchgar ichi am hynny, Weinidog. Rydym i gyd eisiau i blant edrych ymlaen at eu gwyliau. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at dreulio amser gyda'u teuluoedd. Rydym eisiau iddynt edrych ymlaen at allu ymlacio heb ofal yn y byd, a gallu mwynhau eu hunain dros gyfnod y gwyliau. Mae'n drasiedi lwyr—mae'n drasiedi lwyr—fod yna blant yr ydych chi'n eu cynrychioli, rwyf fi'n eu cynrychioli, yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli, sy'n teimlo ofn a diflastod wrth feddwl am y gwyliau, a rhieni a theuluoedd yn y wlad hon a fydd yn colli cwsg dros yr ychydig wythnosau nesaf wrth wybod am y pwysau ariannol y byddant yn ei wynebu dros y gwyliau, sy'n llawer gwaeth nag yn ystod y tymor. Mae'n fwy trasig byth fod hyn yn digwydd oherwydd bod gennym Lywodraeth y DU nad yw'n poeni o gwbl am effaith eu polisïau, a'r polisïau y maent wedi bod yn eu dilyn, ar rai o'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn y wlad hon. Weinidog, rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy a'u bod yn rhoi cymorth a chefnogaeth i rai o'r teuluoedd tlotaf yn y wlad hon. A wnewch chi warantu i'r Senedd hon y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddarparu'r holl gymorth y gall ei roi i blant ac i deuluoedd yn y wlad hon er mwyn sicrhau nad yw bwgan tlodi yn amharu ar eu bywydau yn y ffordd y mae wedi amharu ar fywydau cenedlaethau o bobl o'n blaenau oherwydd Llywodraeth y DU nad yw'n poeni amdanynt hwy a'u cymunedau?
Diolch i Alun Davies am hynny, a chredaf mai'r sefyllfa lom y mae'n ei disgrifio yw'r realiti i'w etholwyr ef a minnau a chyd-Aelodau eraill yn y Siambr heddiw. Bydd y Llywodraeth hon, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi teuluoedd yng Nghymru. Fe wyddoch am y cyhoeddiadau a wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ychydig wythnosau'n ôl. Fe fyddwch yn cofio'r cyhoeddiad a wneuthum wythnos yn ôl ynglŷn â chefnogi teuluoedd sydd angen cymorth penodol gyda chostau gwisg ysgol, cit ysgol, tripiau ysgol ac yn y blaen. Ond yn y pen draw, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb i gydnabod canlyniad y dewisiadau y mae'n eu gwneud. Ac rydym i gyd yn gwybod bod Canghellor y Trysorlys, pan ddylai fod wedi bod yn helpu'r bobl sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd, wedi dewis troi llygad ddall.
Weinidog, mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn chwarae rhan enfawr yn natblygiad plant ifanc, ac i rai o'r plant mwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, yr ysgol yw'r unig gyfle sydd ganddynt i gael mynediad at chwaraeon a chyfleusterau chwaraeon. Felly, Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith yn ystod gwyliau'r Pasg i gefnogi plant sy'n byw mewn tlodi i gael mynediad gwych at gyfleusterau chwaraeon? Diolch, Lywydd.
Bydd yr Aelod yn gwybod am y cyhoeddiad a wneuthum mewn perthynas ag ysgolion bro yr wythnos diwethaf, sy'n cydnabod y pwynt pwysig y mae'n ei wneud, sef mai un o'r cyfraniadau allweddol y gallwn ei wneud i gefnogi dysgwyr difreintiedig yn eu haddysg yw galluogi ysgolion i gael ffocws ar y gymuned yn yr hyn a wnânt a sut y maent yn gweithredu. A bydd wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn buddsoddi £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i helpu ysgolion i ehangu eu cynnig i'r gymuned, a bydd hynny hefyd yn cynnwys cyllid i gefnogi ysgolion yn eu gwaith allgymorth i deuluoedd yn eu cymuned ysgol sydd o dan anfantais arbennig, lle mae eu plant yn wynebu heriau gyda'u presenoldeb. Felly, bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi dysgwyr difreintiedig yn ein hysgolion. Yr hyn sydd ei angen arnom yw partner ar ben arall yr M4 sy'n barod i wneud hynny hefyd.