Ysbyty Athrofaol y Faenor

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:08, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Yn ystod fy nghymorthfeydd stryd niferus ar draws y rhanbarth, cwyn gyffredin fu’r gwasanaeth y mae cleifion wedi’i gael yn ysbyty'r Faenor. Mae hyn wedi bod yn wir ar draws y rhanbarth. Ymddengys bod pobl yn cael anawsterau i gyrraedd safleoedd, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol, a’r amseroedd aros hir i gael eu gweld pan fyddant yn cyrraedd yno yn y pen draw. Mae pethau’n amlwg wedi mynd o ddrwg i waeth yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae cael cyfleuster newydd sbon yn un peth, ond onid yw hanes byr ysbyty'r Faenor yn dangos nad yw ysbyty newydd yn ddim heb ei staff? Cryfder mwyaf y GIG yw ei bobl, ac rydym mewn perygl o’u gorfodi allan o’r sector oni bai ein bod yn gwella eu hamodau gwaith. Rydym hefyd yn peryglu iechyd cleifion pan gyrhaeddir pwynt o argyfwng fel hyn. Pa wersi sydd wedi’u dysgu o agor ysbyty'r Faenor, a pha gynlluniau sydd ar waith i roi’r ysbyty ar sylfaen iachach? Mae'n rhaid unioni’r sefyllfa hon cyn gynted â phosibl, er lles y cleifion a’r staff. Diolch yn fawr.