Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 30 Mawrth 2022.
Dim ond pwynt byr iawn. Mae llawer o drigolion de Powys yn mynd i Ysbyty Nevill Hall ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan yn Y Fenni. Yn y datganiad neithiwr gan fwrdd Aneurin Bevan ar ysbyty'r Faenor, cafwyd argymhelliad fod cleifion yn cael eu dargyfeirio i ysbytai eraill fel ysbyty Nevill Hall. Rwy’n siŵr fod hyn wedi’i ystyried, ond a wnewch chi roi sicrwydd i ni fod cymorth ychwanegol yn cael ei gynnig i ysbytai fel ysbyty Nevill Hall, a fydd yn wynebu straen ychwanegol yn y tymor byr yn sgil y sefyllfa yn ysbyty'r Faenor? Diolch yn fawr iawn.