Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 30 Mawrth 2022.
Yng ngoleuni pwysau eithriadol ac er gwaethaf ymdrechion i sefydlogi eu gwasanaethau, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ddigwyddiad parhad busnes yn Ysbyty Athrofaol y Faenor ar brynhawn 29 Mawrth. Dyma’r lefel uwchgyfeirio uchaf sydd ar gael, ac mae’n dangos yn glir y pwysau difrifol y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ei wynebu.