Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 30 Mawrth 2022.
Rwy'n falch o gyfrannu i'r ddadl fel llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a hefyd fel aelod o'r pwyllgor. Ychydig wythnosau yn ôl, fe fuon ni'n nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ac yn trafod yma yn y Siambr adroddiad blynyddol 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg. Roedd yr adroddiad hwnnw'n datgelu bod gennym ffordd bell i fynd o ran anghydraddoldeb rhywedd.
Pan ofynnodd y pwyllgor i'n tystion beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth fwyaf o ran cau y bwlch cyflog rhywedd a'r anghydraddoldebau sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod, teuluoedd a phlant, gwella cyfleon menywod yn y gweithle ac yn y gymdeithas yn gyffredinol, yr ateb oedd gofal plant am ddim i bawb, a bod hynny ar gael o flwydd oed, os nad yn gynt. Byddai hynny nid yn unig, wrth gwrs, yn taclo anghydraddoldeb rhywedd, ond fe fyddai hefyd yn helpu taclo tlodi ac anfantais; yn dda i rieni a mamau yn enwedig, ac yn dda, yn bwysicach efallai, i blant. Dyna'r ddelfryd, dyna'r safon aur.
Mae adroddiad ymchwil ar ôl adroddiad ymchwil yn pwyntio at hynny fel rhywbeth y mae'n rhaid i ni anelu ato, ac fe gadarnhawyd hynny, dwi'n credu, gan y dystiolaeth sy'n cael ei hadlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. Mae'n galondid, felly, ers i ni fel pwyllgor benderfynu ar destun ein hymchwiliad, fod y cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru wedi sicrhau cynnydd at y nod hwnnw o ehangu gofal plant i bob plentyn dwyflwydd oed fel cam cyntaf.
Un o brif negeseuon yr adroddiad a fydd, gobeithio, yn medru dylanwadu ar y gwaith pwysig hwn oedd, fel rŷn ni wedi clywed, y diffyg ymwybyddiaeth, yr anhawster wrth geisio canfod pa fath o ofal oedd ar gael ble, ar gyfer pa oedran, am faint o oriau. Yn eu tystiolaeth, fe wnaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru rannu gyda ni fod 67 y cant o'r ymatebwyr i'w harolwg nhw yn dweud bod angen gwybodaeth fwy hygyrch a thryloyw arnyn nhw am y darpariaethau gofal plant sydd ar gael. Ategwyd hyn gan gyfranogwyr ein grwpiau ffocws o ran eu hymwybyddiaeth o'r cynnig gofal plant a Dechrau'n Deg.
Darlun pytiog a bratiog, felly, o ddarpariaeth a gafwyd. Loteri cod post oedd yr hyn a ddisgrifiwyd i ni, sy'n golygu nad yw'r ddarpariaeth yn gyson ar gyfer pob teulu ac yn cwrdd ag anghenion pob plentyn ym mhob man yng Nghymru, a'r diffygion o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol yn dod i'r wyneb yn glir.
Gan eu bod wedi derbyn nifer fawr o argymhellion y pwyllgor, ac yn dilyn y datganiad yr wythnos diwethaf ar y cyd ag Aelod dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian, am ehangu rhaglen Dechrau'n Deg, hoffwn ddeall gan y Dirprwy Weinidog beth yw ei gweledigaeth hi o ran sut y gallwn ni wireddu'r nod yma o ehangu gofal plant, o gofio'r hyn y mae'r adroddiad yn ei ddweud wrthym ni am yr heriau sydd angen eu goresgyn i sicrhau hynny. Beth yw rhan ehangu rhaglen Dechrau'n Deg yn y cynllun ehangach o ehangu gofal plant am ddim i bob plentyn o ddwy oed? Beth yw'r cynllun o ran cynyddu a datblygu'r gweithlu a'r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom? A sut mae'r Llywodraeth am sicrhau gwell fynediad at wybodaeth fwy syml a hygyrch i rieni a chreu llwybr gofal plant mwy llyfn i bawb ym mhob cwr o Gymru?