Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 30 Mawrth 2022.
Diolch. Mae mynediad at ofal plant da a fforddiadwy yn allweddol i fywydau hapusach ac iachach ac economi gryfach, decach a mwy cynhyrchiol. Diffyg gofal plant fforddiadwy yw un o brif ysgogwyr y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a welir yn gyson. Fel y gwelsom yn ystod y pandemig, cymerwyd yn ganiataol mai menywod fyddai'n ysgwyddo'r baich pan gaeodd ysgolion, a dyna'n union a ddigwyddodd. Gwyddom fod menywod wedi cael eu gadael i jyglo eu rôl fel athrawon yn ogystal â chogyddion, golchwyr llestri, a cheisio cadw swydd â thâl. Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at ystod o gamau y gellir eu cymryd i wella ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael i rieni, cryfhau'r gweithlu a dysgu o arferion gorau gwledydd eraill. Hoffwn ddiolch i randdeiliaid a gyfrannodd at y gwaith hwn, o Gymru ac yn rhyngwladol, gan gynnwys y rhieni a'r gweithwyr gofal plant rheng flaen, y credaf fod rhai ohonynt yn yr oriel y prynhawn yma. Hoffwn ddiolch hefyd i'r staff ymchwil a chlercio rhagorol a gefnogodd ein hymchwiliad.
Mae'n werth nodi bod yna nifer sylweddol o deuluoedd nad ydynt yn gwybod beth y mae ganddynt hawl iddo. A phan edrychwch ar arolwg blynyddol diweddaraf Coram Family and Childcare o bob awdurdod ym Mhrydain, prin y gallwch synnu, oherwydd bod mwy na hanner ein hawdurdodau lleol heb ddigon o ofal plant ar gyfer hyd yn oed yr hawliau addysg gynnar am ddim y dylai plant fod yn eu cael. Felly, nid yw'n syndod nad yw awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau i ddweud wrth bobl am ddarpariaeth nad yw'n bodoli mewn gwirionedd. Nododd Sefydliad Bevan fod hyd yn oed ymwybyddiaeth o'r 10 awr o ddarpariaeth i bawb ar gyfer plant tair a phedair oed yn isel. A mynegodd cyfranogwyr ein grwpiau ffocws wahanol raddau o ymwybyddiaeth ynglŷn â chwmpas a meini prawf cymhwysedd Dechrau'n Deg a'r cynnig gofal plant. Mae'n ddarlun eithaf dryslyd, felly.
Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad ar gyfer sut y gallwn unioni'r sefyllfa hon. Awgrymwyd y gallai hyn gynnwys ysgrifennu at rieni newydd, neu hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael wrth gofrestru'r enedigaeth. Mae'r Gweinidog wedi rhoi llawer o bwyslais ar yr wybodaeth sydd ar gael gan wasanaeth gwybodaeth i deuluoedd pob awdurdod lleol, ac edrychwn ymlaen at y diweddariad o'r llyfryn 'Dewis Gofal Plant' ar-lein yr ydych wedi'i gomisiynu a fydd yn cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni. Ond rydym yn gwybod nad yw gwybodaeth ar-lein yn ddigon i gyrraedd pob teulu ynglŷn â hawl eu plentyn. Ac mae'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ei hun yn rhagorol yn yr ystyr ei fod yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth aros a chwarae, sydd yr un mor bwysig yn y dyddiau cynnar iawn o fod yn rhiant, ond nid yw'n tynnu sylw amlwg iawn at beth yn union sydd ar gael fel hawl plentyn.