5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 30 Mawrth 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:40, 30 Mawrth 2022

(Cyfieithwyd)

Mae'n dda iawn gwybod ei bod yn ofynnol i dimau Dechrau'n Deg gael strategaethau eraill ar gyfer ymgysylltu â theuluoedd a bod disgwyl iddynt amlinellu'r rhain fel rhan o'u cynlluniau blynyddol, a chredaf fod hynny'n beth pwysig iawn. Ond yn anffodus, rydych hefyd yn dweud yn eich ymateb y bydd Dechrau'n Deg ei hun yn defnyddio mwy o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gyfleu negeseuon allweddol i deuluoedd Dechrau'n Deg, ac mae hynny'n iawn i rai, ond ofnaf na fydd yn cyrraedd y rhai mwyaf difreintiedig. 

Gan droi at gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru, yn wreiddiol canolbwyntiai'n unig ar deuluoedd lle mae'r ddau riant—neu, ar aelwyd un rhiant, y rhiant hwnnw—yn gweithio dros 16 awr yr wythnos. Felly, rydym yn croesawu'r ffaith ei fod yn ymestyn i gynnwys rhieni sydd mewn addysg, hyfforddiant neu ar gyrion gwaith, ac yn enwedig y ffaith eich bod yn derbyn ein hargymhelliad fod angen cynnal asesiadau o'r effaith ar hawliau plant ac asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb ac y cânt eu cyhoeddi o leiaf fis cyn y bydd unrhyw newidiadau yn y ddarpariaeth yn dod yn weithredol.

Rwy'n gobeithio y bydd hynny'n helpu pob awdurdod cyhoeddus i fynd i'r afael â sut, er enghraifft, y bydd pobl sy'n gweithio oriau anarferol, megis gweithwyr shifftiau, yn gallu elwa o'r cynnig gofal plant, oherwydd mae'r rhan hon o'r gweithlu sy'n talu cyflogau isel i raddau helaeth wedi'i heithrio rhag elwa o'r cynnig gofal plant gan nad yw'r farchnad wedi darparu ar gyfer y lefel hon o gymhlethdod eto. Rydych wedi rhoi'r cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i fynd i'r afael â hyn fel rhan o'u hasesiadau digonolrwydd gofal plant, ac nid oes amheuaeth gennyf y bydd y pwyllgor yn edrych gyda diddordeb mawr ar fanylion y rheini maes o law i weld a ydynt yn mynd i'r afael â'r pryder penodol hwnnw mewn gwirionedd.

Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom gan arbenigwyr yn yr Alban a Sweden, ac mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn dysgu gan y goreuon fel ffordd o wella ansawdd ein darpariaeth a'n safonau ar draws y sector, fel ei bod yn fwy na rhaglen ar gyfer cael mwy o rieni yn ôl i waith yn gyflymach, a'i bod hefyd yn gyfrwng hanfodol ar gyfer lleihau'r bwlch cyrhaeddiad.

Mae Llywodraeth Cymru, a'r Dirprwy Weinidog yn enwedig, yn gwerthfawrogi'n fawr y cwricwlwm dysgu drwy chwarae ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chyfnod allweddol 1, ond teimlaf fod y sgiliau addysgegol yn bwysicach yn y blynyddoedd cynnar iawn nag yn unman arall. Dyma'r grŵp anoddaf o blant i'w addysgu, ac felly mae arnom angen yr athrawon gorau yn y maes hwn. Felly, rydym yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi derbyn ein hargymhelliad am y rôl hanfodol y gall ysgolion bro ei chwarae yn gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ar draws y sector gofal plant. 

Mae'n ofnadwy o ddryslyd i'r plentyn sydd ar hyn o bryd yn gorfod cael ei gludo rhwng hyd at dri lleoliad ar wahân dros yr oriau y mae eu rhiant yn gweithio, a mynegodd rhieni a gymerodd ran yn ein hymgynghoriadau ddryswch ynglŷn â'r gwahaniaeth rhwng addysg gynnar a gofal plant. Mae'n ymddangos i mi y gall ysgolion bro wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy sicrhau bod y cynnig cymuned gyfan yn dda.

A chredaf fod angen cryn dipyn o newid diwylliannol o ganlyniad i hyn, oherwydd trydarodd Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon y dylid cadw gofal plant allan o ysgolion mewn ymateb i'n hadroddiad, gan ddiystyru'r rôl y mae gofal plant cynhwysfawr safonol yn ei chwarae yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a achosir gan dlodi mewn modd gwirioneddol syfrdanol. Ni allant synnu bod plant yn cyrraedd yr ysgol yn dair oed gyda dim ond tri neu bedwar gair os nad ydynt yn talu sylw i ba ofal plant y maent yn ei gael cyn iddynt ddechrau yn yr ysgol brif ffrwd. 

Yn sicr, nid yw hyn yn ymwneud ag ysgolion yn mabwysiadu'r rôl werthfawr a chwaraeir gan y meithrinfeydd preifat a chymunedol, ond byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog yn ei hymateb egluro sut y gallwn gynyddu capasiti a gallu'r sector gofal plant cyfan, sy'n cael ei reoli i raddau helaeth gan sefydliadau preifat a gwirfoddol, ac mae hynny'n arbennig o bwysig yng nghyd-destun anghenion dysgu ychwanegol.

Cawsom dystiolaeth wirioneddol frawychus gan rywun nad oedd eu plentyn awtistig yn gallu cael unrhyw gefnogaeth o gwbl yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd dywedwyd wrth y gweithwyr allweddol fod angen i'r ddarpariaeth gau, ac mae'n ymddangos i mi fod angen i'r math hwnnw o unigolyn, y math hwnnw o deulu, yn anad yr un, fod wedi cael llawer mwy o ystyriaeth. Felly, credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn clywed ychydig mwy ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud hynny, oherwydd i deulu sydd â phlentyn anabl, nid ydynt am fod yn cludo eu plentyn gryn bellter er mwyn gallu cael y lefel o ddarpariaeth sydd ei hangen ar y plentyn. Mae angen i'r plentyn allu cael yr un ddarpariaeth â'r plant eraill y mae'n chwarae yn eu plith mewn bywyd bob dydd a pheidio â gorfod mynd i rywle arbennig. Mae angen eu hintegreiddio o'r dechrau.

Byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y cydweithio a fu rhwng Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru ar y ddarpariaeth gofal plant ac a oes mwy o rôl i Estyn i sicrhau bod yr holl ddarpariaeth gofal plant yn cael cefnogaeth pobl sydd â chymwysterau addas i gynllunio'r cwricwlwm, yn enwedig i blant ag anghenion ychwanegol.

Ac yn olaf, rwyf am ddweud bod arnom angen sector gofal plant sy'n adlewyrchu'r boblogaeth. Felly, mae llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod pobl o wahanol gymunedau'n cael eu hannog i ymgymryd â'r swydd bwysig hon ym maes gofal plant, ac mae'r ffordd y gwobrwywn ein gweithlu ac y dangoswn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith pwysig hwn yn rhywbeth y mae gwir angen i bob un ohonom roi sylw iddo, oherwydd, fel y dywedodd un o'n cyfranwyr,

'Rydym ar gontractau dim oriau ac rydym yn gofalu am y dyfodol.'

Felly, mae cyflog a phroffesiynoli'r sector yn allweddol i'r gymdeithas sy'n canolbwyntio ar y plentyn ac sy'n canolbwyntio ar y teulu y mae pawb ohonom ei heisiau.