Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 30 Mawrth 2022.
Ymyriad byr iawn. Yn syml, hoffwn ddweud bod yr holl brofiad rhyngwladol yn dangos, o oedran priodol—. O oedran ifanc iawn, o naw mis ymlaen, yr hyn sydd ei angen arnoch yw’r dull unedig hwnnw sy'n dod ag addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant ynghyd. Mae hynny’n cynnwys chwarae, ond mae’r dull unedig hwnnw’n allweddol i lwyddiant a chanlyniadau.