Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 30 Mawrth 2022.
Rydym yn cytuno. Gŵyr pob un ohonom mai dysgu drwy chwarae yw’r peth gorau oll i’w wneud, ac mai dyna’r canlyniad gorau i blant ifanc.
Ond credaf mai'r tair her y mae pob un ohonom yn eu hwynebu—. Un yw cost, yr ail yw'r angen i ganolbwyntio ar y plentyn a'r trydydd yw cysondeb y cwricwlwm ar draws pob lleoliad, lle bynnag y caiff y gofal plant ei ddarparu. Dyna’r tri pheth y mae angen inni symud ymlaen arnynt.