Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 30 Mawrth 2022.
Hoffwn rannu rhai o fy mhrofiadau fy hun fel mam i dri a oedd â rolau gwirfoddol yn y sector fel ysgrifennydd pwyllgor cylch chwarae a chodwr arian i dynnu sylw at pam fod mynediad at ofal plant mor bwysig i rieni sy'n gweithio.
Ar ôl i fy mhlentyn cyntaf gael ei eni—ac mae hyn yn mynd yn ôl ychydig flynyddoedd, pan oedd pethau'n haws—euthum yn ôl i fy swydd mewn swyddfa, ond roeddwn yn gwario'r rhan fwyaf o fy nghyflog ar ffioedd meithrinfa. Pan oedd gennyf ddau o blant yn dilyn cyfnod mamolaeth, roedd yn rhaid i mi roi'r gorau i fy swydd yn y swyddfa gan fod gofal plant yn rhy ddrud, ac euthum i weithio mewn siop gyda'r nos pan fyddai fy ngŵr yn dod adref o'r gwaith. Wedyn, bûm yn gweithio mewn tafarn ac yn gwneud rownd Avon am nifer o flynyddoedd. Pan gefais fy nhrydydd plentyn, roeddwn yn ffodus oherwydd roedd yn ystod y cyfnod cyn y credyd cynhwysol, cyn y toriadau i nawdd cymdeithasol, ac roedd gennym gredyd treth plant a chredyd treth gwaith o hyd, a olygai, gydag £80 ychwanegol yr wythnos at gyflog fy ngŵr, y gallwn fforddio treulio rhywfaint o amser gartref gyda fy mhlant ifanc am gyfnod byr, nes imi ddechrau mynd yn ôl i weithio ar sail ran amser, ac yna'n amser llawn, er y byddai'n rhaid i mi fynd â fy mhlentyn ieuengaf gyda mi weithiau.
Roedd hwnnw'n gyfnod anodd, ond roeddwn yn ffodus, oherwydd gyda chredyd cynhwysol, toriadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol a chostau byw cynyddol, nid yw'r opsiwn hwnnw ar gael mwyach i gynifer o deuluoedd. I'r rhan fwyaf o bobl, mae cael plant a chydbwyso incwm yn anodd, gan fod y rhan fwyaf o deuluoedd yn dibynnu ar ddau gyflog. Mae gofal plant yn rhy ddrud, a gall neiniau a theidiau, a allai fod wedi helpu ar un adeg, fod yn gweithio eu hunain, fel roedd fy mam, neu'n byw'n rhy bell i ffwrdd. Ar ôl i'r plant gyrraedd tair a hanner a phedair blwydd oed a chael gofal plant am ddim mewn cylch chwarae neu feithrinfa ysgol, roedd yn gymaint o ryddhad—carreg filltir i mi ddychwelyd i'r gwaith.
Efallai y bydd rhai'n dweud na ddylem gael plant os na allwn eu fforddio, ond nid wyf yn credu fy mod erioed wedi gallu fforddio fy mhlant ac rwy'n falch o bob un ohonynt a'r hyn y maent wedi'i gyflawni, gan roi'n ôl i gymdeithas. Ac nid yw'n syndod fod gostyngiad pryderus yn y cyfraddau geni erbyn hyn, rhywbeth a fydd, os na fyddwn yn ei ddatrys, yn achosi problemau yn y blynyddoedd i ddod, gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a neb i dalu trethi neu ofalu amdanynt. Mae'n ganlyniad i galedi ariannol, ansicrwydd a phryder cyffredinol am y dyfodol. Cododd y gyfradd enedigaethau yn ystod Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU, diolch i addysg feithrin am ddim, gofal plant, credydau treth, a 3,500 o ganolfannau plant Cychwyn Cadarn. Dechreuodd y gyfradd enedigaethau blymio eto yn 2012, sef yr adeg y dechreuodd y toriadau cyni didostur a oedd wedi'u targedu at blant. Roedd nifer y babanod a anwyd yn 2019 wedi gostwng cymaint â 12.2 y cant o'i gymharu â 2012, gyda gostyngiad pellach o 4 y cant dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Heb gartref diogel a sicrwydd o fwyd ar y bwrdd, nid yw pobl yn meiddio cael babanod.
Pan oeddwn ar bwyllgor y cylch chwarae, bu'n rhaid inni godi arian, gan nad oedd y swm a dalai rhieni a chyllid gan y Llywodraeth ar gyfer gofal plant am ddim yn ddigon i dalu cyflogau, llogi cyfleusterau, yr yswiriant, y deunyddiau. Ac yn union fel ysgolion cynradd, mae'n rhaid iddynt hefyd lynu wrth gwricwlwm ac arolygiadau'r cyfnod sylfaen. Mae'n rhaid prynu deunyddiau a theganau dysgu arbennig, rhaid darparu byrbrydau iach amrywiol—i gyd am gost ychwanegol.
Fel ysgolion, mae cylchoedd chwarae hefyd yn cael eu harolygu gan Estyn. Yn aml, telir isafswm cyflog i oruchwylwyr cylch chwarae am wasanaeth sydd bellach, oherwydd cwricwla ac arolygiadau, yn gofyn am sgiliau a hyfforddiant arbennig. Rwy'n cofio weithiau y byddai goruchwylwyr y cylch chwarae'n mynd heb gael eu talu am ychydig nes i'r arian ddod i law, a chofiaf weithiau ein bod yn arfer ceisio talu eu cyflogau hefyd, ni ein hunain yn bersonol. Mae'n rhaid i'w rôl yn awr gynnwys cynllunio, arsylwi ac asesu, a rhaid iddynt gadw at anghenion unigol plentyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial, sy'n iawn, ond dylent gael eu talu am hynny. Mae'n rhaid sicrhau bod hyn i gyd ar bapur at ddibenion archwilio ac mae'n rhaid i adroddiadau gael eu hysgrifennu.
Gan fod gofyniad cyfreithiol bellach i ysgolion recriwtio staff i gadw at y gymhareb 1:8, mae llawer o oruchwylwyr cymwysedig yn gadael cylchoedd chwarae i symud i ysgolion lle mae'r cyflog a'r amodau gwaith gymaint yn well. Felly, mae cadw staff sydd â chymwysterau addas bellach yn broblem fawr, yn syml iawn oherwydd na all cylchoedd chwarae fforddio rhoi'r gydnabyddiaeth ariannol y maent yn ei haeddu i'w staff. Mae cylchoedd chwarae'n chwalu oherwydd na all staff fforddio gweithio am gyflogau mor isel am y cyfrifoldeb sydd ganddynt mwyach. Mae angen inni fod yn well am gydnabod y gwaith pwysig y mae'r aelodau staff hyn yn ei wneud.
Rwyf wedi gweld dogfennau a strategaethau'n datgan bod plant ifanc yn dechrau mewn ysgolion meithrin gyda sgiliau cyfathrebu gwael, a pha mor bwysig yw hi iddynt fynychu cylchoedd chwarae, a hefyd pa mor bwysig yw hi i addysg drwy'r cyfnod sylfaen ddechrau cyn gynted â phosibl, yn ddwyflwydd a hanner hyd yn oed, ond nid oes cyllid i gefnogi hyn.
Mae ysgolion yn dweud cymaint haws yw hi i blant sydd wedi bod mewn cylch chwarae ac i athrawon gan eu bod eisoes wedi cael eu dysgu i gadw tegannau, i ddewis drostynt eu hunain, ac wedi cael rhywun yn dangos iddynt sut i wneud yr holl bethau hyn. Maent gymaint yn fwy parod ar gyfer yr ysgol, ac mae hynny yn ei dro yn cynorthwyo athrawon i symud ymlaen gyda'r cyfnod sylfaen.